Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gig gan Hannah i godi arian at gyflwr PoTS

Mae’r fyfyrwraig sy'n astudio cerdd yng Ngholeg Llandrillo yn perfformio gyda bandiau lleol i godi ymwybyddiaeth o PoTS UK

Mae Hannah Popey yn cynnal gig i godi ymwybyddiaeth o PoTS, cyflwr a newidiodd ei bywyd, a chyflwr nad oes llawer o bobl yn gwybod amdano.

Ar ôl chwe blynedd anodd, yn ddiweddar, cafodd Hannah, sy'n 18 oed, ddiagnosis o PoTS (Postural orthostatic tachycardia syndrome).

Mae’r cyflwr yn golygu bod curiad ei chalon yn cynyddu’n gyflym ar ôl codi o eistedd neu orwedd, ac mae hi'n blino’n lân ar ôl gwneud pethau y mae llawer o bobl yn eu cymryd yn ganiataol.

Roedd yn rhaid i Hannah roi’r gorau i chwaraeon, sef un o'i hoff bethau, a chafodd addysg gartref o Flwyddyn 8 ymlaen gan nad oedd hi'n ddigon da i fynd i'r ysgol.

Ers hynny mae hi wedi dysgu chwarae gitâr, ac ysgrifennu, cynhyrchu a pherfformio ei cherddoriaeth ei hun. Erbyn hyn mae hi'n astudio cwrs Lefel 3 mewn Technoleg Cerddoriaeth yng Ngholeg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Bellach, mae’r gantores a’r gyfansoddwraig o Gonwy’n cefnogi’r elusen sydd wedi ei helpu drwy gynnal noson o gerddoriaeth ac adloniant er budd PoTS UK.

Cynhelir ‘A Night to Remember’ yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Comrades Conwy nos Wener, 26 Ebrill.

Yn ogystal â Hannah, bydd y perfformwyr yn cynnwys y bandiau lleol Noisewave, G-String a Highway 88. Ivory Glam, y perfformiwr drag fydd yn y arwain y noson a bydd raffl hefyd. Mae tocynnau i’r digwyddiad yn £5, gyda'r holl elw’n mynd i PoTS UK.

Dywedodd Hannah: “Dw i wedi penderfynu codi arian i PoTS UK, elusen sy’n agos at fy nghalon. Elusen fach ydi hi, a dw i'n meddwl bod angen codi ymwybyddiaeth ohoni gan nad oes llawer o bobl yn gwybod am PoTS.

“Dw i wedi bod yn sâl ers tua chwe blynedd a dim ond wedi cael diagnosis o PoTS yn y mis diwethaf.

“Mae’n effeithio’n aruthrol ar fy mywyd. Dw i’n dioddef pwysedd gwaed isel iawn, ac mae’n rhaid i mi ddefnyddio cymhorthion symudedd pan dw i'n mynd allan oherwydd alla i ddim cerdded yn bell.”

Darganfu Hannah ei dawn am gerddoriaeth ar ôl iddi orfod rhoi’r gorau i’w hoff chwaraeon.

Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae hi’n ysgrifennu a chynhyrchu ei chaneuon ei hun ac yn eu perfformio'n rheolaidd - gan gynnwys ei thrac diweddaraf Dream to Forget, a siartiodd ar iTunes ar ôl iddi ei recordio ar gyfer albwm High Society Coleg Llandrillo.

“Chwe blynedd yn ôl doeddwn i’n gwneud dim byd â cherddoriaeth” meddai Hannah. “Ro’n i wrth fy modd gyda chwaraeon – wrth fy modd gyda phêl-droed a mynd allan i’r awyr agored.

“Yna es i'n sâl, a meddwl 'O na, be ydw i'n mynd i'w wneud efo fy mywyd?' Doedd gen i ddim chwaraeon, a do’n i ddim yn gallu gwneud fy hoff bethau.

“Felly mi ofynnais i mam brynu gitâr i mi – gitâr gwerth £10 oedd yn ofnadwy - a dysgais chwarae'r gitâr.

“Ysgrifennais Stuck in My Mind, fy nghân gyntaf, amdana i'n sownd yn fy ystafell a ddim yn gwybod be o’n i'n mynd i'w wneud, ac yna'n dod o hyd i gerddoriaeth, yn darganfod bod cerddoriaeth yn fy helpu i brosesu emosiynau.

“Oni bai am gerddoriaeth dw i ddim yn gwybod ble byddwn i. Dydw i ddim yn gwybod beth fyddwn i'n ei wneud a dweud y gwir.”

Mae Hannah bellach ar ail flwyddyn ei chwrs yng Ngholeg Llandrillo, gyda’r gig elusennol hefyd yn cyfrif fel ei phrosiect terfynol. Mae hi wedi gallu datblygu ei cherddoriaeth yn y coleg, yn ogystal â chael budd cymdeithasol ar ôl bod allan o’r ysgol cyhyd.

“Mae’r gefnogaeth yn y coleg wedi bod yn anhygoel,” meddai. “Mae’r tiwtoriaid yn dda iawn am eich cefnogi a’ch gwthio i ble rydych chi eisiau bod. Mae’r myfyrwyr i gyd yn cefnogi ei gilydd oherwydd rydyn ni i gyd yn caru cerddoriaeth ac felly eisiau cefnogi ein gilydd.

“Dw i wedi cael ffisiotherapi ac mae hynny wedi fy helpu i ddod i'r coleg, ond mae'r tiwtoriaid yn dal i adael i mi wneud gwaith o adref hefyd, oherwydd weithiau dw i'n rhy sâl i ddod i mewn. Maen nhw'n gefnogol iawn.

“Mae'r coleg wedi fy helpu gyda'r ochr gymdeithasol hefyd. Gartref doeddwn i ddim yn adnabod llawer o bobl oedd yn hoffi cerddoriaeth. Yn y coleg dw i wedi fy amgylchynu gan bobl eraill sy'n hoffi cerddoriaeth, a phobl greadigol.

“Mae’r cwrs Technoleg Cerddoriaeth yn cynnwys gwahanol agweddau ar y diwydiant cerddoriaeth. Rydyn ni'n dysgu am reoli digwyddiadau byw, cynhyrchu, cyfansoddi – dim jyst cyfansoddi caneuon, ond cyfansoddi ar gyfer teledu a ffilm hefyd. Felly rydyn ni’n dysgu amrywiaeth dda o bethau.

“Uchafbwynt y cwrs hwn ydi cael profiad – mi roddon ni berfformiad byw ac ro’n i wrth fy modd yn perfformio a threfnu'r digwyddiad hwnnw, a rŵan mae cael y profiad o drefnu fy nigwyddiad fy hun y tu allan i'r coleg yn wych.

“Hefyd, yr elfen o gydweithio – recordion ni albwm a gafodd lwyddiant eitha’ da. Cyrhaeddodd fy nghân i ar yr albwm rif 21 yn siartiau pop iTunes felly mae wedi fy helpu i roi fy ngherddoriaeth allan yna.

“Mae’r cwrs wedi fy mharatoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant. Mae wedi rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnaf ac wedi gwella fy hyder yn fwy na dim.”

Ers iddi gael y diagnosis, mae Hannah yn cymryd atalyddion beta sy'n helpu i reoli ei symptomau. Mae hi'n benderfynol o ddilyn gyrfa ei breuddwydion fel cantores a chyfansoddwraig, a hefyd helpu eraill sy'n dioddef o PoTS.

Dywedodd Hannah: “Mae’r diagnosis wedi fy helpu’n fawr oherwydd dw i'n gwybod beth sy'n bod a dw i wedi dechrau cymryd meddyginiaeth.

“Yn amlwg, bydd y cyflwr gen i am weddill fy oes, dydi o ddim yn rhywbeth fydd yn jyst mynd, ond gobeithio y bydd hyn yn helpu i reoli fy symptomau ac yn fy helpu i wneud y pethau dw i eisiau eu gwneud o ddydd i ddydd.

“Fy nghynllun ar gyfer y dyfodol gobeithio yw dod yn ganwr, cyfansoddwr a chynhyrchydd llwyddiannus. Efallai y gwna i fwy o waith codi ymwybyddiaeth am PotS trwy ddigwyddiadau byw. Does dim llawer o bobl yn gwybod am PoTS, felly dw i eisiau codi ymwybyddiaeth a helpu pobl eraill sydd â POTS neu bobl sydd efallai ddim yn gwybod bod o arnyn nhw.”

Bydd ‘A Night to Remember’, a gyflwynir gan Hannah Popey, yn cael ei gynnal yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Comrades Conwy nos Wener, 26 Ebrill (8pm-hanner nos). Gellir prynu tocynnau ar y Dudalen GoFundMe am gyfraniad awgrymedig o £5, neu dalu wrth y drws gydag arian parod neu gerdyn. Bydd yr holl elw’n mynd i PoTS UK.