Hwb Cludiant GLlM
Yma cewch wybodaeth am sut i gyrraedd y coleg yn ddiogel, yn ddidrafferth, ac am bris rhesymol, p'un ai ydych chi'n teithio ar droed, neu mewn bws, tacsi, beic, trên neu gar.

Cyrraedd y Coleg: Gwybodaeth am Gludiant
Yr awdurdodau lleol lle mae ein campysau wedi'u lleoli sy'n trefnu'r rhan fwyaf o'r teithiau rhwng y cartref a'r coleg i ddysgwyr ôl-16. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda chynghorau siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn i wneud yn siŵr bod eu polisïau trafnidiaeth yn deg a bod pob dysgwr llawn amser 16–18 oed yn gallu defnyddio trafnidiaeth am ddim lle bynnag y bo modd.
Cludiant am ddim i ddysgwyr 16-18 oed
Ar hyn o bryd mae pob un o'r awdurdodau lleol rydym ni'n bartneriaid iddynt yn darparu dewisiadau cludiant am ddim i ddysgwyr cymwys. Y cynghorau unigol, nid y coleg, sy'n penderfynu a yw dysgwyr yn gymwys ac maent yn gwneud hynny ar sail meini prawf fel pellter o'r campws ac a oes trafnidiaeth gyhoeddus addas ar gael. Cofiwch fod y gofynion yn amrywio'n ôl eich awdurdod lleol a'r coleg rydych chi'n bwriadu ei fynychu. I gael rhagor o wybodaeth dylech edrych ar dudalennau cludiant eich awdurdod lleol.
Os nad ydych chi'n gymwys
Peidiwch â phoeni – cysylltwch â thîm ein Gwasanaethau i Ddysgwyr. Byddwn yn edrych ar ffyrdd eraill o'ch helpu i ddilyn y cwrs rydych chi wedi'i ddewis neu, os nad yw hynny'n ymarferol, gwrs arall ar y campws agosaf sy'n cynnig rhaglen debyg.
Pwy sy'n rhedeg y bysiau a'r tacsis?
Yr awdurdodau lleol, nid y coleg, sy'n rheoli'r holl fysiau, tacsis a gwasanaethau cludiant cyhoeddus sydd wedi'u hamserlennu. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am fannau casglu, amserlenni, pasys neu faterion yn ymwneud â'r gwasanaeth yn syth at swyddfa drafnidiaeth y cyngor perthnasol. Gall y Gwasanaethau i Ddysgwyr eich helpu i gysylltu â'r awdurdod lleol.
Yn ogystal, mae pasys bws yn cael eu cyhoeddi'n wahanol gan bob awdurdod lleol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud eich cais yn gynnar cyn i'r tymor ddechrau; cewch wybodaeth fanwl am sut i wneud hyn trwy glicio ar eicon y coleg rydych chi wedi'i ddewis isod. I wirio lleoliadau casglu, amseroedd a rhifau teithiau penodol, dewiswch eich campws isod.
Cynllunio eich Taith Ymlaen Llaw
Cyn gwneud cais am gludiant, gwiriwch ddau beth:
- Tudalen gludiant benodol y campws rydych chi wedi'i ddewis (dolenni ar waelod y dudalen hon).
- Polisi teithio ôl-16 eich awdurdod lleol a'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau.
Cyngor ac Arweiniad Personol ar Gludiant
Gall ein timau Gwasanaethau i Ddysgwyr gadarnhau amseroedd a lleoliadau casglu, esbonio'r rheolau ynghylch cymhwystra, eich helpu i lenwi ffurflenni'r cyngor a, lle bo angen, codi cwestiynau ar eich rhan. Os bydd eich awdurdod lleol yn gofyn i'r coleg gyhoeddi pàs bws, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw'r broses gasglu. Gallwch gysylltu trwy ddesg Gwasanaethau i Ddysgwyr eich campws neu trwy e-bost cludiant@gllm.ac.uk
Safonau Ymddygiad Teithio
Mae amgylchedd diogel a chwrtais o fudd i bawb. Wrth deithio dylech:
- Ddilyn cyfarwyddiadau'r gyrrwr.
- Cario, a dangos eich pàs bws neu lythyr gan y cyngor pan ofynnir i chi wneud hynny.
- Parchu'r teithwyr eraill a'r cerbyd.
- Peidio ag ysmygu, fepio, yfed alcohol na defnyddio cyffuriau wrth deithio.
- Gall torri'r rheolau hyn yn gyson neu mewn ffordd ddifrifol olygu na chewch ddefnyddio'r gwasanaeth ac arwain at gamau disgyblu gan y coleg.
Cymorth gyda Chostau Cludiant
Mae rhai cynghorau'n gofyn i ddysgwyr ôl-16 gyfrannu tuag at eu costau teithio. Os byddai'r ffi honno'n achosi caledi a'ch bod yn bodloni'r meini prawf, gallwch wneud cais i Gronfa Cefnogi Dysgwyr y coleg am gymorth tuag at y gost gyfan neu ran ohoni. Gofynnwch i'r Gwasanaethau i Ddysgwyr am ffurflen gais cyn gynted ag y bydd eich cyngor yn cadarnhau'r ffi. Mae pob awdurdod lleol yn darparu cludiant i ddysgwyr 16-18 oed, ond gall i ble y maent yn gwneud hynny amrywio’n dibynnu ar eu polisi cludiant. Os nad yw'r awdurdod lleol yn ariannu cludiant i'r cwrs o'ch dewis, cysylltwch â'r Gwasanaethau i Ddysgwyr neu anfonwch e-bost i cludiant@gllm.ac.uk . Gall rhai awdurdodau lleol ariannu cludiant dysgwyr 19+ i'r coleg. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar dudalennau cludiant eich awdurdod lleol.
Polisïau'r Awdurdod Lleol a Chysylltiadau Pellach
Mae gan bob awdurdod lleol ei reolau ei hun ynghylch pellter, amserlenni, pasys teithio a ffioedd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y polisi sy'n berthnasol i'ch cyfeiriad cartref ac yn gwybod erbyn pryd y dylech chi gyflwyno eich cais:
Prawf eich Bod yn Gymwys i Deithio ar y Bws
Rhaid i chi ddangos pàs bws dilys gan y coleg (neu lythyr wedi'i gymeradwyo gan y cyngor) bob tro y byddwch chi'n mynd ar y bws. Mae'n bwysig eich bod yn gwneud cais am eich pàs bws cyn dechrau'r flwyddyn academaidd. I wneud hynny, cliciwch ar y coleg rydych chi wedi'i ddewis isod.
Angen Help?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wasanaeth a reolir gan y coleg, cysylltwch â swyddog cludiant y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar eich campws neu anfonwch neges e-bost i cludiant@gllm.ac.uk



