Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Rhys yn ennill Gwobr Addysg Ymddiriedolaeth y Tywysog

Mae Rhys, sydd â'i fryd ar ymuno â'r heddlu, yn dilyn cwrs Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol yng Ngholeg Llandrillo

Enillodd Rhys Morris, sy'n fyfyriwr yng Ngholeg Llandrillo, Wobr Addysg Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru.

Cyflwynwyd y wobr i Rhys, o Abergele, yn seremoni wobrwyo Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghaerdydd.

Mae’r Wobr Addysg yn cydnabod pobl ifanc sydd wedi goresgyn rhwystrau ac wedi datblygu sgiliau newydd i wella eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol trwy ail ymgysylltu ag addysg.

Dechreuodd taith Rhys gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog ar y rhaglen Cyflawni ar ôl iddo gael ei gyfeirio at yr Academi Cerrig Milltir, sef Uned Cyfeirio Disgyblion sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n cael trafferthion yn yr ysgol.

Yn ystod y rhaglen Cyflawni cymerodd Rhys ran mewn gweithgareddau adeiladu tîm, gan feithrin ymwybyddiaeth o awtistiaeth wrth iddo gael ei herio i ymestyn ei hun.

Rhoddodd hyn yr awydd iddo weithio hyd eithaf ei allu wrth iddo gwblhau ei gymwysterau TGAU, BTEC a thystysgrif Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Mae bellach yn astudio cwrs Lefel 3 mewn Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl, ac yn gweithio tuag at wireddu ei uchelgais o ymuno â'r Heddlu.

Meddai Rhys: “Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog wedi fy helpu drwy roi’r rhyddid i mi fynegi fy hun ac edrych ar gyfleoedd wrth ddatblygu hyder a hunan-barch.

“Roedd Cerrig Milltir yn drobwynt mawr i mi, rhoddodd gyfle i mi ailddechrau cymdeithasu a magu’r hyder a fydd yn fy helpu yn fy ngyrfa yn y dyfodol.

“Dw i'n astudio cwrs Lefel 3 mewn Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai yng Ngholeg Llandrillo erbyn hyn. Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Ymddiriedolaeth y Tywysog a Cherrig Milltir.”

Ychwanegodd: “Gyda’r gefnogaeth gywir, dw i wedi cyflawni mwy nag y buaswn i'n gallu ei ddychmygu. Wnes i erioed feddwl y byddwn i mor benderfynol o wneud unrhyw beth mewn bywyd – dw i'n gwerthfawrogi addysg yn fwy nag erioed erbyn hyn ac yn deall pa mor bwysig ydyw.

“Mae gweld y gwahaniaeth y mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn ei wneud yn y gymuned, a’r awydd i fod yn rhan o’r gwahaniaeth hwnnw, wedi fy helpu i benderfynu bod yn heddwas. Hoffwn i roi yn ôl i’r gymuned.”

Gwnaeth Rhys gais i Goleg Llandrillo ar ôl clywed am y cwrs pan ymwelodd Gyrfa Cymru â'i ysgol.

Dywedodd: “Dw i’n mwynhau’r cwrs. Mae'r tiwtoriaid yn arbennig o dda, a dydi'r cwrs ddim yn canolbwyntio ar un peth yn unig, mae'n amrywiol. Rydyn ni’n dysgu am ofal gwarchodol ar hyn o bryd, a’r flwyddyn nesaf byddwn ni’n dysgu sut mae’r heddlu’n ymateb i argyfyngau, felly mae nifer o wahanol agweddau iddo.”

Meddai Cara Baker, tiwtor personol Rhys: “Mae Rhys yn rhagori ym mhob elfen o’i waith. Mae ganddo agwedd wych at ddysgu, ac mae'n gweithio'n galed. Mae Rhys yn datblygu sgiliau a fydd yn ei helpu i gael gyrfa wych fel heddwas ac rydw i’n edrych ymlaen at ei weld yn datblygu.”

Cynlluniwyd cyrsiau Grŵp Llandrillo Menai ym maes yr Heddlu a Gwasanaethau Cyhoeddus i baratoi dysgwyr ar gyfer gweithio yn y Lluoedd Arfog, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, y Gwasanaeth Carchardai, sefydliadau cymunedol a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â'r gwasanaethau brys. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.