Llawn Amser (Addysg Bellach)

Gallai dod i’r coleg newid eich bywyd! Yn ôl ein cyn-fyfyrwyr, bu’r cyfleusterau tan gamp, y ffrindiau newydd a wnaethant a’r gefnogaeth a gawsant gan diwtoriaid yn fodd iddynt gael profiadau gwych yn y coleg, ac yn help iddynt gyrraedd targedau na chredent oedd yn bosib.

Pa un ai a ydych yn ystyried beth i'w wneud ar ôl gorffen eich arholiadau TGAU, angen gwella'ch cymwysterau i gael swydd well neu fynd i'r brifysgol, neu am ddysgu rhagor am bwnc y bu gennych ddiddordeb ynddo erioed, rydym yma i'ch helpu.

Os byddwch yn astudio gyda ni, byddwch yn dilyn eich Rhaglen Ddysgu eich hun, a fydd yn cynnwys:

  • Cymhwyster galwedigaethol (e.e. NVQ, BTEC), neu,
  • Nifer o bynciau Lefel AS/A2

Gall eich rhaglen hefyd gynnwys:

  • Bagloriaeth Cymru
  • Cymwysterau llythrennedd a rhifedd
  • Cymwysterau galwedigaethol ychwanegol

Bagloriaeth Cymru:

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Myfyriwr mewn llyfrgell

Sohaib Hassan

Lefelau A - Chweched Y Rhyl

Mae myfyriwr Lefel A o Chweched Y Rhyl yn llawenhau ar ôl iddo dderbyn cynnig gan Brifysgol Rhydychen i ddilyn cwrs gradd gyfun mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Iaith Saesneg!

Bu Sohaib Hassan 18 oed o'r Rhyl yn llwyddiannus iawn yn ei lefel A yr haf diwethaf - Llenyddiaeth Saesneg (A*), Drama (A), Seicoleg (A) a Bagloriaeth Cymru (A) - ac mae ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer Lefel A ychwanegol (mewn Hanes), dros un flwyddyn yn unig, a rhagwelir y bydd yn cael A/A*.

Symudodd Sohaib o Surrey i Ogledd Cymru yn haf 2017. Yn dilyn ei dair blynedd yn Rhydychen, mae yn anelu at yrfa mewn ysgrifennu ar gyfer y sgrin, actio neu gyfarwyddo, neu'r swydd o Weinidog Addysg! Yn fyfyriwr brwd mewn drama a chelf gain, perfformiodd mewn dramâu ysgol a sioeau theatr gerddorol di-ri.

"Ro'n i wrth fy modd i dderbyn y cynnig diamod i astudio yng Ngholeg Hertford Prifysgol Rhydychen. Rwyf wir yn mwynhau fy astudiaethau yn Chweched y Rhyl. Mae'r cwrs a'r tiwtoriaid yn anhygoel, a theimlaf yn fwy annibynnol heb golli cefnogaeth."

"O ystyried fy nghefndir sosio-economaidd, byddwn yn dweud os gallaf i ei wneud y gall unrhyw un. Bydd gwaith caled, uchelgais a brwdfrydedd yn eich cymryd i unrhyw le."

Myfywyr mewn llyfrgell yn astudio

Mwy o ddewis

Cynigiwn ddewis eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol mewn mwy na 35 maes pwnc, gan ei gwneud yn hawdd i chi ddod o hyd i’ch cwrs delfrydol.

Mwy cyfleus

Gan fod gennym ddeg campws yng Ngogledd Cymru, mae un yn siŵr o fod o fewn eich cyrraedd.

Mwy o gyfleusterau

Os dewiswch astudio gyda ni, cewch elwa o gyfarpar modern ac amgylcheddau gweithio sy’n adlewyrchu’r byd go iawn. Hefyd, pan na fyddwch mewn dosbarth, cewch ddefnyddio’r amrywiol gyfleusterau, yn cynnwys y llyfrgelloedd, y ganolfan chwaraeon a’r gampfa, neu ymlacio gyda phaned o goffi yn un o’n hamryw gaffis a ffreuturau.

Mwy o sgiliau

Bydd y sgiliau a ddysgwch yn y coleg (fel cyfathrebu a rheoli amser a sgiliau sy’n gysylltiedig â meithrin annibyniaeth, gwaith tîm, sgiliau cymdeithasol a phrofiad gwaith) yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy a pharod i ymgodymu â byd gwaith neu addysg uwch.

Myfyrwyr Lefel A ar ganlyniadau da

Mwy o lwyddiant

Bob blwyddyn, bydd ein myfyrwyr yn cael canlyniadau academaidd arbennig o dda, gan gynnwys cyfradd basio o 99% yn 2021, ac yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion ledled Prydain. Yn fwy na hynny, ar Lefel A, derbyniodd 50% o'n myfyrwyr y graddau A * ac A chwaethus.

Ymhellach, cyflawnodd 95% o fyfyrwyr eu cymwysterau BTEC yn 2021 gyda 37.5% yn cyflawni Rhagoriaeth * neu Ragoriaeth.

Mwy o gefnogaeth

Cewch ofal da yn ystod eich cyfnod yn y coleg. Bydd eich Tiwtor Personol yn eich helpu i ymgynefino â bywyd coleg a bydd yn cynllunio ac yn adolygu’ch cynnydd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd eich targedau. Gallwch gael cyngor ac arweiniad gan staff ymroddedig ein Gwasanaethau i Ddysgwyr hefyd ar amrywiaeth o faterion, yn cynnwys: cymorth ychwanegol i astudio, materion ariannol, cyngor gyrfaol a chwnsela cyfrinachol.