Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwyddoniaeth (Cymhwysol)

Bydd ein cyrsiau, a gynhelir mewn labordai soffistigedig, yn rhoi sylfaen gadarn i chi ym maes egwyddorion gwyddonol.

Ar y cyrsiau hyn, cewch feithrin dealltwriaeth eang a sylfaenol o wyddoniaeth a’i chymwysiadau ymarferol. Gallech fynd ymlaen i ddilyn cyrsiau Lefel A, Mynediad i Addysg Uwch neu gyrsiau gwyddonol ar lefel prifysgol, neu gallech fynd i weithio mewn maes gwyddonol neu faes sy’n ymwneud ag iechyd.