Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lefel AS/A Astudiaethau Drama a Theatr

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Pwllheli, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Astudiaethau Drama a Theatr

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Pwllheli

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi astudio drama a theatr at lefel uwch? Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer ystod eang o fyfyrwyr, gydag amrywiaeth o nodau. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n mwynhau perfformio, ac yn ystyried gyrfa yn y proffesiwn, a'r rhai sydd am ddatblygu eu hunanhyder, neu ddatblygu o'u cwrs TGAU Drama.

Beth bynnag yw eich ysgogiad, mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau mewn actio, ysgrifennu sgript, dyfeisio, dadansoddi testun, cyfarwyddo, a dylunio. Mae hefyd yn annog sgiliau ehangach fel gweithio gydag eraill. Yn ogystal â gweithio gyda myfyrwyr eraill sydd hefyd yn mwynhau perfformio, byddwch yn cael y cyfle i ddadansoddi perfformiadau theatr fyw, mewn lleoliadau lleol ac mewn dinasoedd fel Birmingham a Llundain.

Gall cyflawni'r cwrs fel rhan o raglen lawn-amser, ar y cyd â phynciau Lefel A/AS eraill, neu o bosib gyda chymwysterau Lefel 3 galwedigaethol.

Mae yna nifer o resymau pam fod myfyrwyr â diddordeb dilyn y cwrs “Drama ac Astudiaethau Theatr”.

Mae nifer o fyfyrwyr yn dilyn y cwrs oherwydd eu bod yn mwynhau perfformio, neu am ddilyn gyrfa yn y maes, tra bod eraill yn dilyn y cwrs er mwyn magu hyder, neu am eu bod yn gweld y pwnc yn ddilyniant naturiol o'r cwrs TGAU Drama. Pa bynnag reswm, mae “Drama ac Astudiaethau Theatr” yn rhoi cyfle i fagu nifer o sgiliau megis actio, sgriptio, dyfeisio, dadansoddi sgript, cyfarwyddo a chynllunio yn ogystal â chyfle i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol megis gweithio gydag eraill, gan gymysgu gyda myfyrwyr sydd â gwir diddordeb mewn perfformio.

Yn ogystal â pherfformio, rhan bwysig arall o'r cwrs yw trafod cynyrchiadau byw ac felly mae'n rhaid ymweld â'r theatr. Trefnir teithiau yn aml gan gefnogi theatrau lleol yn ogystal ag ymweliadau i theatrau mwy megis Birmingham neu Lundain. Mae myfyrwyr Drama hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn sioeau allgyrsiol y Coleg.

Gwybodaeth Uned

DA1: Gweithdy Perfformio Ar gyfer yr uned hon byddwch naill ai'n actio mewn grŵp neu'n cyfrannu'r sgìl cynhyrchu technegol i berfformiad o:

  • destun gosod
  • darn wedi'i ddyfeisio

DA2:Testun

Byddwch yn ateb tri chwestiwn:

  • Un testun cyn-1900 o restr benodedig
  • Un testun ôl-1900 o restr benodedig
  • Adolygiad theatr fyw

DA3: Perfformiad ar Thema Osod

Disgwylir i chi weithio mewn ymateb i thema a osodir gan CBAC a pharatoi dau berfformiad. Ym mhob achos byddwch naill ai'n actio neu'n dangos sgìl cynhyrchu technegol gyda grŵp o berfformwyr. Bydd y perfformiad yn cynnwys: golygfeydd/darnau o destun wedi'i gyhoeddi a darn a ddyfeisiwyd gan y grŵp. Bydd angen gwerthusiad o'r gwaith perfformio ar gyfer y ddau ddarn.

DA4: Testun mewn Cyd-Destun

  • Dau destun gosod o restr benodedig: un cyn-1900 ac un ôl-1900
  • Dadansoddiad cyfarwyddol o destun nas gwelwyd o'r blaen.

Bydd pedair adran i'r papur: cynllun llawr, dylunio/gwisgoedd, goleuo/sain a symudiadau.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd B mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

  • Mae amrywiaeth o ddulliau dysgu yn cael eu defnyddio, ond mae'r rhan fwyaf o sesiynau yn weithdai. Bydd hyd yn oed y gwaith ar destunau gosod yn defnyddio sesiynau gweithdy ymarferol.
  • Byddwch hefyd yn elwa o ymweliadau gan actorion, dramodwyr a chyfarwyddwyr, a fydd yn cael eu gwahodd i'r Coleg i gynnal gweithdai unigryw.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

  • Byddwch yn derbyn asesiadau anffurfiol yn ystod y tymor, gydag amrywiaeth o weithgareddau sy'n ymarferol ac yn seiliedig a'r brosiectau
  • Bydd yr unedau ymarferol yn cael ei asesu'n fewnol a'i safoni'n allanol
  • Bydd yr unedau ysgrifenedig yn cael ei asesu ym mis Ionawr bob blwyddyn, gyda chwestiynau i brofi eich dealltwriaeth.

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster ychwanegol a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn ennill pwyntiau UCAS ac yn gallu gwneud cais ar gyfer ystod o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau, yn cynnwys Grŵp Llandrillo Menai.

Bydd eich dewisiadau yn cynnwys astudiaethau israddedig yn y brifysgol, hyfforddiant theatr dechnegol, a chyrsiau perfformiad proffesiynol mewn colegau drama, cerddoriaeth neu ddawns. Efallai y byddwch hefyd yn gwneud cais am gyrsiau mewn meysydd pwnc eraill, gan gynnwys Cymraeg, Saesneg, Addysg, Seicoleg, neu Ffilm a Theledu.

Mae'r cwrs hefyd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y celfyddydau perfformio, gan gynnwys canu proffesiynol, dawnsio ac actio, rheoli cwmni perfformiad, rheoli adloniant, rheoli theatr, coreograffi, a chelfyddydau cymunedol.

Gallech hefyd fynd ymlaen i sectorau eraill megis addysg, y cyfryngau, marchnata, a newyddiaduraeth.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • International
  • Lefel AS/A

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Pwllheli

Lefel AS/A