Peirianneg Diwydiannau'r Tir

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys gweithdai peirianneg pwrpasol a chaiff myfyrwyr y cyfle i weithio ar y peiriannau a ddefnyddir ar fferm fasnachol 160 hectar y coleg.

Yn ddiweddar, cafodd y gweithdai eu hehangu ac adeiladwyd parthau weldio newydd er mwyn i ddysgwyr gael profiad realistig a pherthnasol o weithio ar beiriannau’r tir.

Myfyriwr yn weldio

Rydw i wir wedi mwynhau astudio peirianneg yma. Rydw i wrth fy modd gydag amrywiaeth y gwaith. Yn y pen draw, mi hoffwn i ddechrau fy musnes fy hun.

David Goodchild - Peirianneg Diwydiannau’r Tir Lefel 3

Gyrfa mewn Peirianneg Diwydiannau'r Tir


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.