Graddio
Y seremoni raddio flynyddol yw uchafbwynt calendr y Colegau. Mae’n goron ar yr holl waith caled ac yn gyfle i ddathlu cyflawniadau unigolion.
Seremoni Raddio: Dydd Gwener 7 Gorffennaf 2023
Cynhelir y seremoni ddydd Gwener, 7 Gorffennaf yn Venue Cymru, Llandudno. Bydd y seremoni'n dechrau am 1pm, ond er mwyn i chi gael digon o amser i gofrestru, i wisgo'ch gŵn ac i gael tynnu'ch llun, bydd gofyn i chi fod ar gael o 10am ymlaen.
Mae cofrestru bellach ar gau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch neges e-bost at graduation@gllm.ac.uk
Edrychwn ymlaen at ddathlu gyda chi.