Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Ar bob cwrs, cyfunir gwaith theori a sesiynau ymarferol ag ymweliadau a chyflwyniadau gan siaradwyr gwadd sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, er mwyn meithrin eich gwybodaeth a’ch sgiliau.

Pa raglen bynnag y byddwch yn ei dilyn, cewch gyfle i ennill cymwysterau ychwanegol buddiol, gan gynnwys cymhwyster cymorth cyntaf, dyfarniadau awyr agored a chymwysterau hyfforddi mewn pob math o gampau.

⁠Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser yn y meysydd a ganlyn:

  • Hyfforddi Ffitrwydd
  • Addysg Awyr Agored
  • Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth)
  • Chwaraeon (Hyfforddi, Datblygu a Ffitrwydd)

Canolfan Chwaraeon o'r Radd Flaenaf yn Agor yn Llangefni

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi agor eu hadeilad carbon Net-Sero cyntaf - sef canolfan chwaraeon newydd sbon o'r radd flaenaf - a ariennir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Mi fydd y ganolfan newydd yn gartref i'r dechnoleg a'r offer diweddaraf ar gyfer monitro perfformiad a rhagoriaeth chwaraeon, gan gynnwys beiciau wat, peiriannau Seca i ddarparu dadansoddiad cyfansoddiad corff llawn gradd feddygol, a melin draed arbenigol yn cynnwys system dadansoddi bagiau nwy Douglas i asesu Vo2max.

Canolfan Chwaraeon Llangefni

Roedd y Coleg yn ddewis gwell i mi na’r ysgol. Mi wnes i fwynhau’r cwrs yn fawr, ac mae’r cyfle i chwarae rygbi i dîm cyntaf dan 18 oed Colegau Cymru wedi agor llawer o ddrysau i mi. Dw i wedi teithio’n helaeth ac wedi cael cyfarfod â phob math o bobl ddiddorol o’r byd chwaraeon. Mae’r coleg wedi rhoi cyfle i mi gynrychioli fy ngwlad mewn camp dw i’n ei charu, ac mae hynny’n destun balchder mawr i mi.

Sophie-Wynn Ellis - Chwaraeon Lefel 3