Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfleusterau Chwaraeon yn Llangefni

Mae'r ganolfan chwaraeon ar ein campws yn Llangefni yn gartref i'r dechnoleg a'r offer diweddaraf ar gyfer monitro perfformiad a rhagoriaeth chwaraeon, gan gynnwys beiciau wat, peiriannau Seca i ddarparu dadansoddiad cyfansoddiad corff llawn gradd feddygol, a melin draed arbenigol yn cynnwys system dadansoddi bagiau nwy Douglas i asesu Vo2max.

Neuadd chwaraeon

Neuadd chwaraeon

Cyfleuster o safon fyd-eang sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd chwaraeon. Mae marciau ar y llawr ar gyfer chwarae badminton, pêl fasged, pêl rwyd a futsal/pêl-law. Mae’r neuadd chwaraeon hefyd yn cynnig cyfleoedd i chwarae criced gan ddefnyddio’r offer gorau posibl.

Beiciau ymarfer yn y gampfa

Stiwdio

Mae’r stiwdio yn gyfleuster o’r ansawdd uchaf, sy’n cynnwys llawr sbring ar gyfer cynnal amrywiaeth o weithgareddau megis ioga, dawnsio a sesiynau ymarfer corff dwys. Bydd y stiwdio hefyd yn cynnal dosbarthiadau sbin gyda 18 o feiciau sbin.

Codi pwysau yn y gampfa

Campfa

Mae’r gampfa berfformio yn cynnwys offer o’r radd flaenaf gan gynnwys ystod o gyfarpar cardiofasgwlaidd megis peiriannau sgïo ERGS, peiriannau rhwyfo, beiciau awyru, melinau traed a melinau traed awyru. Mae offer ychwanegol gan gynnwys pwysau sefydlog a phwysau rhydd, slej, bagiau pwysau pŵer a phwysau tegell hefyd ar gael i’w defnyddio.

Aelod o staff yn hyfforddi dysgwr

Staff arbenigol

Rydym yn falch bod gennym staff cymwys a phrofiadol o’r sectorau chwaraeon a gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys cyn-chwaraewyr rygbi a phêl-droed elitaidd, cyn-aelodau o’r lluoedd arfog, yr heddlu a swyddogion y gwasanaethau diogelu y gall ein dysgwyr fanteisio’n uniongyrchol ar eu profiadau.

Myfyrwyr yn dysgu yn y labordy

Labordy chwaraeon ac ymarfer

Mae’r labordy ffisioleg ymarfer corff yn gyfleuster sy’n arwain y sector AB o ran asesu ystod eang o agweddau ar iechyd a ffitrwydd, gydag offer yn cynnwys:

  • Melin draed h/p/cosmos quasar gyda bwa diogelwch a system dadansoddi nwy douglas bag i asesu V02 max.
  • Ergomedrau beicio Monark a Wattbike er mwyn cynnal ystod o brofion Aerobig/Anaerobig.
  • Dadansoddwr cyfansoddiad corff Seca mBCA515 er mwyn cynnal dadansoddiad cyfansoddiad corff llawn o radd feddygol.
  • System sbirometreg gyfrifiadurol Spiroscout er mwyn asesu gweithrediad yr ysgyfaint.

Yn ogystal â’r uchod, mae gan y labordy nifer o galiperau tegyll Harpenden, offer profi cryfder a phŵer Takei, ac offer mesur lactad pwysedd gwaed ac mae’r rhain oll yn rhoi profiadau dysgu unigryw i’n dysgwyr.

Nid yw’r cyfleuster newydd yn agored i’r cyhoedd ond gallwn gynnig y brif neuadd chwaraeon at ddefnydd sefydliadau lleol fel a ganlyn:
  • Bydd y cyfleusterau ar gael i'w harchebu o 4:30pm i 8:00pm o ddydd Llun i ddydd Iau am hyd at 8 awr yr wythnos
  • Rhoddir blaenoriaeth i ddefnydd Grŵp Llandrillo Menai
  • Er mwyn i gynifer â phosibl o bobl leol allu elwa, rhoddir blaenoriaeth i’r Clybiau a’r Cymdeithasau hynny sydd â’r nifer fwyaf o aelodau
  • Rhoddir blaenoriaeth i'r Clybiau a Chymdeithasau sy'n gallu defnyddio'r adnoddau yn ystod y cyfnodau pan fydd y coleg yn agored
  • Rhoddir blaenoriaeth i'r Clybiau a Chymdeithasau sy'n lleol i Ynys Môn
  • Nid yw'n bosibl caniatáu i unigolion ddefnyddio'r adnoddau
  • Rhoddir blaenoriaeth i'r rhai sy'n archebu am gyfnod o fwy nag 8 wythnos (yr un amser bob wythnos)
  • Mewn trafodaeth â Chyngor Sir Ynys Môn, byddwn yn adolygu’r telerau hyn yn rheolaidd i sicrhau nad ydym yn ymyrryd nac yn cystadlu â darpariaeth Canolfan Plas Arthur.
Chwarae pel rwyd yn y neuadd
Myfyrwyr yn y gampfa

Cwestiynau Cyffredin

Oes dyddiau/amseroedd eraill ar gael?

Gan ein bod yn gyfleuster academaidd, mae'n rhaid i ni roi blaenoriaeth i'n dysgwyr. Fodd bynnag, fe all fod yn bosibl defnyddio'r cyfleuster ar benwythnosau neu yn ystod y gwyliau, ond gall hyn achosi costau ychwanegol.

A ellir defnyddio'r neuadd chwaraeon ar gyfer digwyddiadau heblaw chwaraeon?

Mae gan y neuadd orchudd llawr penodol sy'n addas ar gyfer gweithgareddau chwaraeon, felly ni ellir ei defnyddio ar gyfer mathau eraill o ddigwyddiadau (er enghraifft partïon, marchnadoedd, sioeau)

Oes angen i ni ddarparu'r holl offer?

Rydym yn disgwyl y bydd y trefnwyr yn darparu'r hyn sydd ei angen arnynt, ond rydym yn hapus i drafod gofynion penodol.

Oes angen i ni fod yn gyfrifol am staff goruchwylio a hyfforddi a'r ddarpariaeth cymorth cyntaf?

Rydym yn disgwyl y bydd y trefnwyr yn darparu'r hyn sydd ei angen arnynt, ond rydym yn hapus i drafod gofynion penodol.

Am unrhyw ymholiadau, e-bostiwch BwcioFfitrwyddMenai@gllm.ac.uk