Gwasanaethau Arbenigol
Cyngor a chefnogaeth arbenigol i'ch helpu i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau arloesol, o weithgynhyrchu i fwyd ac i ynni.
Y Ganolfan Technoleg Bwyd (CTB)
Sefydlwyd y Ganolfan Technoleg Bwyd ar gampws Llangefni yn 1999 a chwaraea ran allweddol yn y gwaith o drosglwyddo gwybodaeth i'r diwydiant bwyd yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Yn y ganolfan hon, mae adnoddau pwrpasol sy'n cynnwys neuaddau i brosesu cig ffres, pysgod, cynnyrch llaeth a bwyd a baratowyd; cegin profi a datblygu cynnyrch a labordy dadansoddi cynnyrch.
Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg
Mae’r Ganolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llangefni yn rhoi pwyslais pendant ar weithio mewn partneriaeth i ddarparu hyfforddiant sgiliau Isadeiledd o ansawdd uchel.
Mae CIST yn llwyfan i’r diwydiant Isadeiledd weithio gyda busnesau i
hyrwyddo datrysiadau a chynnyrch arloesol, ac mae’n lleoliad delfrydol i
brofi ac arddangos cynnyrch newydd yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.
Glynllifon
Campws diwydiannau’r tir, sy’n cynnwys cyfleusterau preswyl, yw Glynllifon. Saif ar Ystâd Glynllifon ger Caernarfon.
Mae fferm Glynllifon, yn cynnwys y coetir, yn ymestyn dros 300 hectar, ac mae’n amgylchedd gwych ar gyfer astudio rheoli cefn gwlad ac amaethyddiaeth.
Academi Croeso
Campws arloesol sy'n ymestyn ledled gogledd Cymru ac sy'n canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant o'r radd flaenaf ym maes twristiaeth a lletygarwch.