Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm

Cewch eich dysgu gan staff proffesiynol cymwysedig sydd wedi cael profiad perthnasol yn y diwydiant, a chewch feithrin sgiliau ymarferol wrth gwblhau prosiectau go iawn i ddiwydiannau a sefydliadau lleol.

Ymhlith y sgiliau a gaiff eu meithrin mae cynhyrchu fideo, ffotograffiaeth a’r gallu i ddefnyddio meddalwedd golygu fideo Adobe.

Cewch eich annog i ddatblygu’ch gallu creadigol drwy fynd ar brosiectau profiad gwaith gyda chyflogwyr lleol megis Venue Cymru, Chwarel TV, Canned Media ac ‘It’s My Shout’. Caiff y prosiectau hyn eu darlledu ar BBC2 Cymru ac S4C.

Caiff y cyrsiau hyn eu cynnal mewn cyfleusterau ardderchog lle ceir y dechnoleg ddiweddaraf, yn cynnwys ystafell gyfryngau ac ynddi feddalwedd proffesiynol, stiwdio aml-gamera ac ystafell sain i’r myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau ym maes Ffilm a Theledu.

Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser yn y meysydd a ganlyn:

  • Cynhyrchu Cyfryngau
  • Cyfryngau Newydd - Dylunio a Datblygu
  • Teledu a Ffilm

Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?

Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau Lefel 2 hyd at gyrsiau lefel Gradd. Rydym hefyd yn cynnig Prentisiaethau.

Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.


Gyrfa mewn Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.

Myfyrwyr yn defnyddio camera