Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lefel AS/A Iaith a Llenyddiaeth Saesneg

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Pwllheli, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Iaith a Llenyddiaeth Saesneg

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Llangefni
Pwllheli

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb mewn pwrpas iaith a'i natur? Hoffech chi ddatblygu sgiliau gwerthfawrogi llenyddiaeth a dadansoddi beirniadol? Mae'r cwrs hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, sy'n darparu dilyniant naturiol o lefel TGAU. Mae'r cwrs yn rhoi cyfle i chi ystyried sut mae agweddau a gwerthoedd yn cael eu creu a'u cyfleu ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Bydd y cwrs yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu yn ogystal ag astudio drama, barddoniaeth a thestunau rhyddiaith o bersbectif ieithyddol a llenyddol. Mae'r ail flwyddyn yn adeiladu ar ac yn ehangu eich astudiaethau, gan alluogi gwerthfawrogiad o arwyddocâd diwylliannol y byd llenyddol modern a chlasurol.

Gall gyflawni'r cwrs fel rhan o raglen lawn-amser, ar y cyd â phynciau Lefel AS/A eraill, neu o bosib gyda chyrsiau Lefel 3 eraill.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd B mewn Saesneg Iaith Gyntaf a Llenyddiaeth Saesneg

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Dysgu yn y dosbarth
  • Trafodaethau
  • Darllen ac ysgrifennu dadansoddol
  • Ymchwilio'n annibynnol
  • Gwaith grŵp
  • Dadleuon

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu fel a ganlyn:

  • Cynhelir arholiadau allanol ym mis Mehefin bob blwyddyn
  • Gwaith cwrs

Dilyniant

Os ydych chi'n cyflawni Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi ddatblygu.

Byddwch yn ennill pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn sawl sefydliad, gan gynnwys Grŵp Llandrillo Menai. Mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau Ieithyddiaeth a phynciau ieithyddol eraill, a llawer mwy.

Byddwch hefyd yn gwella'ch rhagolygon o ran gyrfa, ac os dewiswch fynd yn syth i fyd gwaith, gallwch wneud cais am ystod eang o swyddi.

Gwybodaeth campws Bangor

Gwybodaeth Uned

Blwyddyn 1:

Uned 1 - Dadansoddiad cymharol ac ysgrifennu creadigol.

Adran A: Dadansoddiad cymharol o un gerdd o flodeugerdd CBAC a thestun nas gwelwyd o'r blaen.

Adran B: dau ddarn o waith ysgrifennu creadigol a sylwebaeth gymharol.

Uned 2 - Drama ac astudiaeth o destun nad yw'n llenyddol (arholiad llyfr agored)

Drama: Kindertransport gan Diane Samuels

Testun nad yw'n llenyddol: Down and out in Paris and London gan George Orwell

Blwyddyn 2:

Uned 3: Shakespeare (arholiad llyfr caeedig) Dau gwestiwn arholiad ar Othello.

Uned 4: Testunau nas gwelwyd o'r blaen ac astudiaeth o ryddiaith (arholiad llyfr agored)

Adran A: Dadansoddiad cymharol o destunau nas gwelwyd o'r blaen.

Adran B: Astudiaeth o Ryddiaith - The Handmaid's Tale gan Margaret Atwood

Uned 5: Astudiaeth o genre critigol a chreadigol (gwaith cwrs)

Adran A: Astudiaeth feirniadol a pharhaus o genre rhyddiaith.

Adran B: Un darn o ysgrifenedig gwreiddiol sy'n gysylltiedig ag astudio genre.

Gwybodaeth campws Dolgellau

Blwyddyn 1 AS

Uned 1: Dadansoddi Cymharol ac Ysgrifennu Creadigol (Arholiad Ysgrifenedig: 2 awr)

Adran A: Dadansoddi barddoniaeth a thestunau na fyddwch wedi eu gweld o'r blaen yn gymharol

Mae'r uned hon yn datblygu eich gallu i ddarllen a chymharu amrywiaeth o destunau. Mae'r Detholiad o farddoniaeth yn cynnwys ystod eang o farddoniaeth a ysgrifennwyd rhwng diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg ac 1914. Y bwriad yw cyflwyno dysgwyr i ddatblygiad hanesyddol yr iaith Saesneg ac i gyfoeth ei thraddodiad barddol, yn ogystal â thynnu sylw at sut y mae cynnwys ac arddull barddoniaeth wedi amrywio dros amser. Yn yr arholiad bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ddadansoddi cerdd yn gymharol ag un o blith dau destun.

Adran B: Ysgrifennu Creadigol a Sylwebu

Bwriad yr uned hon yw cael myfyrwyr i ymgysylltu â'r broses greadigol gan roi cyfle iddynt feithrin eu sgiliau ysgrifennu eu hunain mewn gwahanol ffurfiau ac ar gyfer amrywiaeth o ddibenion. Yn ogystal, bydd disgwyl i ymgeiswyr ysgrifennu sylwebaeth gymharol ar ddau destun maent wedi'u cynhyrchu.

Uned 2: Drama ac Astudio Testunau Llenyddol ac Anllenyddol (Arholiad Ysgrifenedig: 2 awr)

Adran A: Drama o'r cyfnod wedi 1900

Byddwch yn astudio 'A Streetcar Named Desire' gan Tennessee Williams. Canolbwyntia'r adran hon ar gyd-destun y testun dramatig, gan ddadansoddi detholiad o'r ddrama yn ogystal ag ymateb iddi'n estynedig.

Adran B: Astudiaeth o Destun Anllenyddol

Byddwch yn astudio 'In Cold Blood' gan Truman Capote gan ddefnyddio dulliau dadansoddi ieithyddol a llenyddol priodol.

Blwyddyn 2 (A2)

Uned 3: Shakespeare (Arholiad Ysgrifenedig 2 awr)

Bwriad yr uned hon yw eich cyflwyno i ddrama Shakespeare 'The Tempest'

Uned 4: Astudio Rhyddiaith a Thestunau Nas Gwelwyd o'r Blaen (Arholiad Ysgrifenedig: 2 awr)

Adran A: Dadansoddi Testunau na Fyddwch wedi'u Gweld o'r Blaen yn Gymharol

Bydd yr adran hon yn ymestyn eich gallu i gyferbynnu mathau gwahanol o destunau o wahanol gyfnodau. Byddwch yn dysgu sut i lunio dadansoddiad cymharol manwl o dri thestun na fyddwch wedi'u gweld o'r blaen ac sy'n dod o amrywiol gyd-destunau.

Adran B: Astudio Rhyddiaith

Yn yr uned hon byddwch yn darllen y nofel 'Tess of the D'Urbervilles'gan Thomas Hardy. Byddwch yn dysgu sut i gynhyrchu darn estynedig gan integreiddio sgiliau ieithyddol a llenyddol.

Uned 5: Astudiaeth Feirniadol a Chreadigol o Genre

Adran A: Astudiaeth o Genre

Dyma gyfle i astudio testunau o genre o'ch dewis chi a chyflwyno astudiaeth 1500 - 2000 gair sy'n seiliedig ar y deunydd a ddarllenoch.

Adran B: Ysgrifennu Creadigol Cysylltiedig

Gofynnir i chi ysgrifennu darn gwreiddiol o tua 1000-1500 gair yn yr un genre â'r un a astudiwyd gennych. Bydd eich gwaith creadigol yn cael ei lywio gan yr ymchwil a wnaethoch ar gyfer Adran A.

Gwybodaeth campws Pwllheli

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • International
  • Lefel AS/A

Dwyieithog:

n/a

Lefel AS/A