Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 blwyddyn

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Addysg Gorfforol

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r pwnc hwn yn addas i ddysgwyr sydd â diddordeb gwirioneddol mewn chwaraeon a ffitrwydd ac yn cymryd rhan/cystadlu mewn chwaraeon yn gyson. Bydd y pwnc yn galluogi dysgwyr i wneud y canlynol:

  • Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol o'r ffactorau sy'n greiddiol i weithgaredd corfforol a chwaraeon a defnyddio'r wybodaeth hon i wella perfformiad
  • Deall sut mae cyflyrau ffisiolegol a seicolegol yn effeithio ar berfformiad
  • Deall y ffactorau diwylliannol cymdeithasol allweddol sy'n dylanwadu ar gysylltiad pobl â gweithgaredd corfforol a chwaraeon
  • Deall rôl technoleg mewn gweithgaredd corfforol a chwaraeon
  • Mireinio eu gallu i berfformio'n effeithiol mewn gweithgaredd corfforol a chwaraeon drwy ddatblygu sgiliau a thechnegau a dewis a defnyddio tactegau, strategaethau a/neu syniadau cyfansoddiadol
  • Datblygu eu gallu i ddadansoddi a gwerthuso i wella perfformiad
  • Deall y cyfraniad mae gweithgaredd corfforol yn ei wneud i iechyd a ffitrwydd
  • Gwella fel dysgwyr effeithiol ac annibynnol ac fel meddylwyr beirniadol a myfyriol â meddyliau chwilfrydig a holgar.

Yn y flwyddyn gyntaf, bydd y dysgwyr yn cwblhau unedau 1 a 2 sy'n werth 40% o'r Lefel A cyfan:

Uned 1 - Archwilio Addysg Gorfforol (24% o'r cymhwyster)

Cael ei asesu drwy un arholiad ysgrifenedig 1 ¾ awr. Cwestiynau wedi'u cyd-destunoli i gynnwys cwestiynau dewis lluosog, ymateb i ddata, byr ac estynedig.

Bydd y dysgwyr yn astudio'r 4 maes canlynol yn y gwersi ar gyfer yr arholiad:

  • Ffisioleg Ymarfer (exercise), Dadansoddi Perfformiad ac Ymarfer (training)
  • Seicoleg Chwaraeon
  • Caffael sgiliau
  • Chwaraeon a'r Gymdeithas

Uned 2 - Gwella perfformiad personol mewn addysg gorfforol (16% o'r cymhwyster)

  • Perfformiad ymarferol mewn un gweithgaredd fel chwaraewr/perfformiwr.
  • Perfformiad ymarferol fel hyfforddwr neu ddyfarnwr.
  • Proffil Perfformiad Personol.

Yn yr ail flwyddyn, bydd y dysgwyr yn cwblhau unedau 3 a 4 sy'n werth 60% o'r lefel A cyfan:

Uned 3 - Gwerthuso Addysg Gorfforol (36% o'r cymhwyster)

Cael ei asesu drwy un arholiad ysgrifenedig 2 awr. Amrywiaeth o gwestiynau i gynnwys cwestiynau ymateb i ddata, byr ac estynedig.

Bydd y dysgwyr yn astudio agweddau gwahanol o'r 4 maes AS yn y gwersi ar gyfer yr arholiad:

  • Ffisioleg Ymarfer (exercise), Dadansoddi Perfformiad ac Ymarfer (training)
  • Seicoleg Chwaraeon
  • Caffael sgiliau
  • Chwaraeon a'r Gymdeithas

Uned 4 - Mireinio perfformiad personol mewn addysg gorfforol (24% o'r cymhwyster)

Perfformiad ymarferol mewn un gweithgaredd fel chwaraewr/perfformiwr, hyfforddwr neu ddyfarnwr. Bydd y rhan fwyaf o'r gwersi yn cael eu cyflwyno mewn dosbarth. Bydd ambell i wers ymarferol hefyd er mwyn atgyfnerthu cynnwys y gwersi dosbarth.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

  • Cyflwyniadau
  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • Amgylchedd dysgu rhithiol

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

  • Arholiad ysgrifenedig
  • Perfformiad ymarferol mewn chwaraeon o ddewis
  • Gwaith cwrs

Dilyniant

Amrywiaeth o raddau ym maes chwaraeon fel:

  • Gwyddor Chwaraeon
  • Seicoleg Chwaraeon
  • Rheoli ym maes Chwaraeon
  • Hyfforddi Chwaraeon

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Lefel AS/A

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau

Lefel AS/A