Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Llenyddiaeth Saesneg

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi astudio amrywiaeth o destunau llenyddol? Ydych chi'n awyddus i feithrin sgiliau dadansoddi a gwerthfawrogi beirniadol? Ar y cwrs hwn, cewch astudio gweithiau llenyddol pwysig sy'n cwmpasu cyfnod eang. Bydd hefyd yn meithrin eich sgiliau fel darllenydd a beirniad llenyddol gwybodus ac annibynnol. Felly, os ydych yn ddarllenwr brwd ac yn mwynhau trafod, ymunwch yn y ddadl a dewch i astudio Llenyddiaeth Saesneg.

Gallwch ddilyn y cwrs fel rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau Lefel AS/A eraill, neu o bosibl gyda chyrsiau Lefel 3 eraill.

Gall myfyrwyr hŷn hefyd ddilyn y cwrs yn rhan-amser.

Blwyddyn 1 (Lefel AS)

Uned 1: Rhyddiaith a Drama

Adran A: Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar ffuglen cyn 1900. Byddwch yn astudio un testun gan ystod eang o'r nofelwyr canlynol: Jane Austen, Charlotte Bronte, Elizabeth Gaskell, Charles Dickens, Thomas Hardy.

Adran B: Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar yr astudiaeth lenyddol drama. Byddwch yn astudio un testun gan ystod eang o'r dramodwyr canlynol: Christopher Marlow, Oscar Wilde, Tennessee Williams, Caryl Churchill, Joe Orton.

Uned 2: Barddoniaeth ar ôl 1900

Adran A a B: Mae'r adrannau hyn yn canolbwyntio ar ddadansoddi beirniadol a chymharu dau destun pâr o lyfrau barddoniaeth: Edward Thomas ac Alun Lewis; DH Lawrence a Gillian Clarke; Ted Hughes a Sylvia Plath; Phillp Larken a Carol Ann Duffy, a Seamus Heaney a Owen Sheers.

Blwyddyn 2 (Lefel A)

Uned 3: Barddoniaeth cyn 1900 a Barddoniaeth nas welwyd o'r blaen

Adran A: Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar farddoniaeth cyn 1900. Byddwch yn astudio un darn o waith gan y beirdd canlynol: Geoffrey Chaucer, John Donne, John Milton, John Keats, Christina Rossetti.

Adran B: Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar ddadansoddiad a gwerthfawrogiad ystod eang o destunau o amrywiaeth o ffynonellau.

Uned 4: Shakespeare

Mae'r ddwy Adran A a B yn seiliedig ar astudiaeth o un o'r dramâu canlynol gan Shakespeare: King Lear, Antony and Cleopatra, Hamlet, Henry IV Part 1, The Tempest

Uned 5: Astudiaeth Rhyddiaith

Mae'r uned hon yn canolbwyntio ar ddarllen annibynnol, i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau beirniadol ar lefel uwch, wrth astudio dau destun rhyddiaith o wahanol gyfnodau, un cyn y flwyddyn 2000 ac ar ôl hynny, a enwebwyd gan y tiwtor.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd C mewn Llenyddiaeth Saesneg

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Dysgu yn y dosbarth
  • Trafodaethau
  • Darllen ac ysgrifennu dadansoddol
  • Ymchwil annibynnol
  • Gwaith grŵp
  • Dadleuon

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Cewch eich asesu fel a ganlyn:

  • Arholiadau allanol fis Mehefin bob blwyddyn
  • Gwaith cwrs yn LT2 a LT3

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen.

Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau, yn cynnwys Grŵp Llandrillo Menai. Ymhlith y cyrsiau gradd y gallwch wneud cais iw dilyn mae Saesneg, Astudiaethau Creadigol, pynciau ieithyddol eraill a llawer mwy.

Bydd y sgiliau y byddwch yn eu meithrin wrth astudio Llenyddiaeth Saesneg yn ddefnyddiol mewn sawl maes ac ar lawer o gyrsiau gradd. Byddwch hefyd yn gwella'ch rhagolygon o ran gyrfa, ac os dewiswch fynd yn syth i waith, gallwch wneud cais am amrediad eang o swyddi.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • International
  • Lefel AS/A

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Pwllheli

Lefel AS/A