Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llywodraethu

Grŵp Llandrillo Menai yw Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion Dwyfor, a Busnes@LlandrilloMenai.

Llywodraethwr Coleg? - Beth amdani?

A ydych: â diddordeb, yn ymroddedig, ac yn chwilfrydig am addysg bellach ac uwch leol?

Mae Grŵp Llandrillo Menai ar hyn o bryd yn chwilio am Aelodau Bwrdd newydd sydd â diddordeb ac yn awyddus i gyfrannu at un o lwyddiannau addysgol mwyaf gogledd Cymru. Mae Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am un o rwydweithiau Coleg mwyaf Cymru drwy Goleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor, gan gynnig Addysg Bellach ac Uwch, Dysgu Seiliedig ar Waith ac Addysg Oedolion yn y Gymuned gyda phroffiliau ariannol ac ansawdd rhagorol.

Mae llywodraethwyr yn mynychu cyfarfodydd Bwrdd rheolaidd ac yn cymryd rhan mewn pwyllgorau. Mae'r rôl yn wirfoddol, darperir hyfforddiant, a thelir costau teithio. Cynhelir cyfarfodydd ar-lein yn bennaf, yn ystod oriau sy’n hwylus i blant a gwaith, gyda digon o gyfleoedd i gwrdd â’ch gilydd yn ystod y flwyddyn i weld beth sy’n digwydd yn eich coleg lleol.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, neu grefydd, yn unol â’n polisi Cyfle Cyfartal.

I gael gwybod mwy, cysylltwch â'n Cyfarwyddwr Llywodraethu t.prosser@gllm.ac.uk am sgwrs anffurfiol.

Y Bwrdd

Mae'r Bwrdd yn cynnwys cyfanswm o 20 o aelodau, dan arweiniad y Cadeirydd, Dr Griff Jones a'r Is-gadeirydd Alun Thomas. Mae'r Bwrdd yn cyfarfod yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn ac yn rhannu ei waith rhwng pedwar is-bwyllgor, sef Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau, y Cadeiryddion, y Pwyllgor Archwilio a Risg a Phwyllgor Chwricwlwm, Myfyrwyr a Safonau. Gan dynnu ei aelodaeth o gronfa o brofiad eang, mae'r Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr gwirfoddol di-dâl o fyd busnes, awdurdodau lleol, y gymuned, staff, myfyrwyr, ynghyd â nifer o aelodau cyfetholedig i ddarparu cyflenwad llawn.

Mae'r Bwrdd yn gyfreithiol gyfrifol am benderfynu ar "cymeriad addysgol a chenhadaeth" y Grŵp wrth sicrhau bod yna ddulliau effeithiol o wybod a yw'n cael ei reoli'n briodol er mwyn cyflawni ei genhadaeth, gan sicrhau rheolaeth effeithiol o adnoddau i sicrhau ei hydaledd wrth ddiogelu ei asedau; cymeradwyo amcangyfrif blynyddol o incwm a gwariant; penodi, graddio, gwaharddiadau, diswyddo, a phenderfynu ar gyflog ac amodau gwasanaeth deiliaid swyddi uwch a'r Cyfarwyddwr Llwyodraethu, a gosod fframwaith ar gyfer cyflog ac amodau ar gyfer yr holl staff eraill.

Llywodraethwyr presennol:

  • Dr Griff Jones (Cadeirydd)
  • Alun Thomas (Is-gadeirydd)
  • Andrea Adams (yn addysgu)
  • Dr Roy Bichan
  • Andy Billcliff
  • Dafydd Evans
  • Dilwyn Evans
  • Dr Gwyn Jones
  • Peter Lavin
  • Chris Morgans
  • Hedd Pugh
  • Marion Pryor
  • Prof. Carol Tully
  • Brian Woosnam (nad yw'n addysgu)
  • Bethan Williams Price
  • Siwan Iorwerth
  • Margaret Ogunbanwo
  • Victoria Painter
  • Llywydd UM
  • Swyddog AU

Lawrlwythiadau:

Gwaith Y Bwrdd

Llywodraethu

Y Bwrdd
Ymdrin ag amcanion safonol a amlinellir yn yr Offeryn ac Erthyglau Llywodraeth yn casglu ac awdurdodi argymhellion a chanfyddiadau o'i is-bwyllgorau. Rhoi cymeradwyaeth terfynol ar faterion statudol cyllid, archwilio ac ansawdd a holl faterion eraill fel bo angen. Yn dal y pŵer i ffurfio pwyllgorau "Adrodd" ac "Arbennig" statudol yn ôl yr angen. Yn uniongyrchol yn monitro adfywio, dysgu yn y gwaith, ymgysylltu â chyflogwyr a gweithgareddau datblygu economaidd (fel y nodir isod) a chyfeirio risg gysylltiedig i'r PAR.

Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau (PCA) (lawr lwytho):
Ymdrin â Chyllid, Gwasanaethau Corfforaethol, Adnoddau Staffio a Pholisi, swyddogaethau Ystadau, Dysgu yn y Waith, Iechyd a Diogelwch, chyfeirio risg gysylltiedig i'r PAR.

Pwyllgor Cadeiryddion (PC) (lawr lwytho):

Gweithredu fel pwynt cyfeirio ar gyfer strategaeth, busnes brys cyffredinol yn ôl yr angen, chwilio, cyflogau, llywodraethu, yn ogystal â chyfeirio risg cysylltiedig i PAR

Pwyllgor Archwilio a Risg (PAR) (lawr lwytho):

Ymdrin â gofynion statudol archwilio mewnol ac allanol ac adrodd, ynghyd â monitro risg cyffredinol.

Y Pwyllgor Cwricwlwm, Myfyrwyr a Safonau (PCMS) (lawr lwytho):

Ymdrin â chynllunio'r cwricwlwm, asesu ansawdd, partneriaethau a myfyrwyr, yn ogystal â chyfeirio risg gysylltiedig i PAR.

Cynghorau Coleg Lleol:

Yn arwain arfer gorau yn y sector, mae Cynghorau Coleg Lleol wedi cael eu datblygu gyda phrif bwrpas o gynnal cynrychiolaeth leol, gan hyrwyddo perthynas agos â staff, myfyrwyr, awdurdodau lleol, partneriaid addysg, budd-ddeiliaid ehangach a busnesau ar sail arbenigol ar draws ardal ddaearyddol amrywiol iawn. Mae pob Gyngor y Coleg yn cael ei gadeirio gan Llywodraethwr er mwyn rhoi sylw i fuddiannau lleol drwy bwyllgor o gynrychiolwyr ardal dethol, gan ganiatáu i faterion sy'n benodol i bob maes gweithredu'r Grŵp cael eu darlledu, a thrwy hynny hyrwyddo perchnogaeth, cyfranogiad ac integreiddio gyda'r gymuned ac ar yr un amser yn darparu llais uniongyrchol i Fwrdd y Grŵp. Gadeiryddion y Cynghorau yw:

  • Hedd Pugh (Dolgellau)
  • Dr Gwyn Jones (Pwllheli)
  • Hedd Pugh (Glynllifon)
  • Dr Griff Jones (Llangefni)
  • Alun Thomas (Llandrillo-yn-Rhos)
  • Andy Billcliff (Y Rhyl)

Mae pob Cyngor Coleg yn cael eu gweinyddu gan Caroline Jones (Swyddog Clercio'r Grŵp).

Lawrlwythiadau:

Llywodraethu

Beth ydym ni'n ei ddisgwyl gan ein Llywodraethwyr?

Meddwl am ddod yn Lywodraethwr? Cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Llwyodraethu am gymorth a chyngor pellach.

Disgwylir i holl Lywodraethwyr gwblhau datganiad Llywodraethu blynyddol, a chytuno i ymrwymo i god ymddygiad a moeseg. Mae'r Cod Llywodraethu isod yn cynnwys meini prawf ar gyfer cymhwyster, cod ymddygiad, a chrynodeb defnyddiol o brif ddyletswyddau a phwerau’r Bwrdd.

  • Cod Llywodraethu Da ar gyfer Colegau yng Nghymru

Y ffordd rydym yn adrodd:

Cysylltiadau Llywodraethu defnyddiol:

Cysylltiadau

Mae Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwybodaeth yn goruchwylio llif gwaith y Bwrdd, ac mae'n gweithredu fel Swyddog Rhyddid Gwybodaeth, Diogelu Data a Chwynion annibynnol i'r Grŵp, ochr yn ochr â bod yn Ysgrifennydd Cwmni i weithrediadau masnachol y Grŵp. Mae Toby yn gyn-Gadeirydd Rhwydwaith Cenedlaethol Clercod AB Cymru.

Yn gyn Clerc Cyngor Dref, mae Toby wedi gweithio yng Ngholeg Llandrillo ers dros ugain mlynedd fel darlithydd a rheolwr. Mae Toby yn gyfrifol am gadw'r Grŵp mewn cysylltiad cadarn gydag ymchwil a datblygiadau llywodraethu cenedlaethol ar draws y sector.

Gweithdrefn Gwyno y Grŵp

Gellir gweld y weithdrefn gwyno ar ein tudalen polisïau.

Llywodraethu, Diogelu Data, Rhyddid Gwybodaeth a Chwynion:
Toby G. Prosser
Coleg Llandrillo
Ffordd Llandudno
Llandrillo-yn-Rhos
LL28 4HZ

07936 930569
t.prosser@gllm.ac.uk

Cynghorau Coleg Lleol a Chefnogaeth Diogelu Data:
Caroline Jones
Coleg Meirion-Dwyfor
Penrallt
Pwllheli
LL53 5EB

07753 397977
caroline.jones@gllm.ac.uk

Rhyddid Gwybodaeth

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn anelu at weithredu mewn modd agored ac yn gwbl atebol. Ymhlith y cyfoeth o wybodaeth a gyhoeddwyd eisoes gan y Grŵp, mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn galluogi chi i ofyn am wybodaeth bellach gan gyrff cyhoeddus fel ni, yn ôl yr angen.

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

  • wedi bod yn gyfreithlon mewn grym ers Ionawr 1af, 2005
  • yn rhoi hawli bawb o fewn a thu allan y Grŵp i gael mynediad i wybodaeth a gedwir gan y Grŵp a'i cholegau
  • yn cwmpasu holl gofnodion a gwybodaeth ddigidol a phrint a gedwir gan Grŵp Llandrillo Menai boed yn gyfredol neu archif

Mae amodau ac eithriadau lle nad oes angen i wybodaeth gael ei rhyddhau a ni ddylid ei rhyddhau.

Cynllun Cyhoeddi'r Grŵp

I helpu gydag ein rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae Grŵp Llandrillo Menai yn cydymffurfio â Chynllun Cyhoeddi safonol y sector sydd â manylion am y mathau o wybodaeth y mae'r Grŵp yn darparu fel mater o drefn i'r cyhoedd a sut y gall y cyhoedd gael mynediad at y wybodaeth. Mae'n cynnwys pethau fel strwythurau a threfniadaeth y Coleg, ei wasanaethau a'i weithdrefnau, arferion, a chanllawiau. O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae gan y cyhoedd hawl i ofyn am wybodaeth nad yw wedi'i chynnwys yn y cynllun cyhoeddi Coleg.

Mae cyfrifoldeb am geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn sefyll gyda Chyfarwyddwr Llwyodraethu'r Grŵp.