Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Menter

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi dangos ymrwymiad i hyrwyddo a sefydlu diwylliant sy’n dangos yn glir pa mor bwysig yw entrepreneuriaeth.

Crynodeb Blynyddol ar gyfer Grŵp Llandrillo Menai

Yn fyr, ein huchelgais gyffredinol ar gyfer Entrepreneuriaeth yn GLLM yw:

Rhoi cyfle i bob dysgwr gymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd, gan gefnogi’r rhai hynny sydd ag uchelgeisiau penodol i ddechrau busnes a datblygu, eu helpu i fynd yn eu blaenau drwy’r ecosystem fenter ranbarthol a helpu i gynyddu nifer y busnesau newydd ledled Gogledd Cymru.

Wel pwy fyddai wedi meddwl y byddai 2020 yn troi allan i fod mor wahanol i bob blwyddyn arall mewn cof. Dechreuodd GLLM y flwyddyn yn llawn brwdfrydedd gyda lawnsiad ein hwb AU yn Nolgellau ac roedd cynlluniau ar waith ar gyfer ystod o weithgareddau ar hyd a lled pob safle. Fodd bynnag, wrth gloi, daeth newidiadau mawr i'n bywydau i gyd ac roedd angen ail-feddwl yn gyflym i ymgysylltu a chefnogi ein entrepreneuriaid ifanc. Isod mae ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2020 yn ddogfen ddiddorol iawn ac mae'n adroddiad o falchder aruthrol i ni fel tim wrth ini adlewyrchu ar y lefel o weithgaredd a gymerodd lle mewn amgylchiadau nas gwelwyd yn flaenrorol.

Mae GLLM yn ffodus bod ganddo Hyrwyddwyr Menter hynod wybodus a phrofiadol sy’n gyfrifol am gydlynu a chyflwyno digwyddiadau, trefnu gweithgareddau a monitro ym mhob un o’r 9 campws. Caiff y tîm ei arwain gan Karen Aerts, sy’n rhedeg ei busnes cwnsela ei hun, ac un o’r meysydd y mae’n arbenigo ynddynt yw gweithdai hyder a gwytnwch. Ym mis Medi 2020 ymunodd Shoned Owen â ni gyda chyfrifoldeb am safleoedd Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor a dod â set o sgiliau unigryw gyda hi o redeg ei busnes llwyddiannus ei hun gyda ffocws ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'r tîm yn parhau i gael ei gryfhau gan Stephanie Harding, darlithydd Busnes sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am hyrwyddo menter i'n myfyrwyr AU.

Nodau Menter GLLM

  • Sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad at addysg a gweithgareddau Menter fel rhan o’u cwricwlwm er mwyn gwella eu rhagolygon gwaith ac elwa o economi wybodaeth sy’n tyfu
  • Ymgysylltu â thua 4000 o ddysgwyr bob blwyddyn (ar wahân i 2020) o ganlyniad i sefydlu Menter ac Entrepreneuriaeth mewn cyrsiau amser llawn
  • Grymuso staff dysgu ac addysgu i sefydlu ethos entrepreneuraidd yn eu cwricwlwm penodol
  • Gweithredu a meddwl mewn ffyrdd arloesol a mentrus er mwyn sicrhau bod y Grŵp yn cyflawni ar y lefel uchaf
  • Canfod, creu a chynllunio ar gyfer cyfleoedd newydd yn gysylltiedig â’n blaenoriaethau sector rhanbarthol a gwybodaeth am y farchnad leol
  • Gweld addysg menter fel proses ddysgu gydol oes
  • Cynyddu ein capasiti drwy ddefnyddio partneriaid allanol ac adnoddau rhanddeiliaid
  • Fel rhan o weithgareddau Creu Sbarc, annog dysgwyr i gofrestru ac ymgysylltu er mwyn helpu i adeiladu a chysylltu â’r gymuned entrepreneuraidd yng Nghymru.
2020Myfyrwyr
Ymgysylltu (gweithgareddau codi ymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth)1285
Grymuso (Myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i gynyddu capasiti entrepreneuraidd)288
Myfyrwyr a gefnogwyd i ddechrau busnes19
Nifer y busnesau a ddechreuwyd7