Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ffioedd cyrsiau - Cyrsiau Gradd

Gwybodaeth am ffioedd cyrsiau a chostau ychwanegol.

Cyrsiau llawn amser – mynediad ym mis Medi 2026

Hysbysiad pwysig:

Dylai myfyrwyr sicrhau, cyn cofrestru ar gwrs, eu bod wedi sicrhau cyllid i dalu eu ffioedd dysgu a'u bod wedi cyllido ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau.

Ffioedd ar gyfer myfyrwyr sy'n parhau (a ddechreuodd ar Lefel 4 yn 2024/25)

I fyfyrwyr sy'n symud ymlaen i Lefel 6 yn 2026/27 heb seibiant, y ffioedd yw £8,300.

Dylai myfyrwyr ailymgeisio am gyllid yn unol â chyfarwyddiadau Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Cyrsiau rhan-amser

Fel arfer codir ffioedd rhan-amser ar sail nifer y credydau a astudir mewn blwyddyn academaidd, a gall hyn amrywio fesul cwrs.

Ar gyfer y mwyafrif o gredydau rhan-amser, codir £450 am bob 10 credyd a astudir (cyfradd 2026/2027.

Mae rhai eithriadau i'r ffioedd rhan-amser a godir am gyrsiau penodol. Mae'r rhain yn cynnwys £400 am bob 10 credyd ar raglenni HNC a HND, a £500 am bob 10 credyd ar raglenni Paratoi i Addysgu ac Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol/TAR.

Mae Benthyciad Ffioedd Dysgu o £2,625 ar gael i fyfyrwyr o Gymru sy’n mynychu SAU.

Os yw'r ffi dysgu yn fwy na'r benthyciad ffi dysgu sydd ar gael, yna bydd yn rhaid i chi ariannu'r gwahaniaeth eich hun. Gallwch dalu'r ffioedd hyn wrth i chi astudio.

Bydd myfyrwyr rhan-amser parhaus a ddechreuodd eu cwrs yn 24/25 neu cyn hynny yn cadw eu strwythur ffioedd ar adeg mynediad i'w rhaglen.

Costau Ychwanegol yn gysylltiedig â'r Cwrs

Nid yw'r ffioedd dysgu yn cynnwys yr holl gostau sy'n gysylltiedig ag astudio. Dyma enghreifftiau o gostau ychwanegol, ond fe all fod rhai eraill hefyd:

  • Costau teithio a lleoliadau gwaith.
  • ⁠Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a gwahardd (pan fo'u hangen).
  • ⁠Deunyddiau cwrs, offer arbenigol, a meddalwedd.
  • Argraffu ychwanegol (yn ychwanegol i'r lwfans argraffu o £30 mae'r coleg yn ei roi i fyfyrwyr gradd).
  • Ffioedd yn gysylltiedig â'r seremoni raddio.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau'r cyrsiau unigol neu siaradwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr.

Myfyrwyr mewn seremoni raddio