Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    2 flynedd

Gwnewch gais
×

Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi wedi gwirioni ar gerddoriaeth? Hoffech chi gael gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth?

Ar y cwrs hwn, cewch ddysgu am sain ddigidol a thechnoleg cerdd yn cynnwys dylunio sain, cynhyrchu a recordio sain. Byddwch yn cael cip ar y diwydiant technoleg cerddoriaeth.

Byddwch yn ennill cymhwyster ymarferol sy'n berthnasol i'r gweithle a byddwch yn dysgu wrth gwblhau prosiectau ac aseiniadau sy'n cyfeirio at sefyllfaoedd sy'n berthnasol i'r gweithle. Bydd yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ac yn eich cynorthwyo i fynd ymlaen i ddechrau gyrfa neu ddilyn cwrs Addysg Uwch. Byddwch yn datblygu sgiliau sy'n addas ar gyfer sawl gyrfa wahanol yn y diwydiant cerddoriaeth a meysydd eraill.

Fel rhan o'r cwrs hwn, byddwch yn derbyn Diploma Lefel 3 UAL mewn Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 4 TGAU gradd C neu uwch, yn ddelfrydol i gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af)
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.

Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir ichi fynychu cyfweliad i roi'r cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae lleoedd ar y rhaglen yn destun cyfweliad a chlyweliad.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Sesiynau ymarferol a gweithdai
  • Gweithgareddau yn y dosbarth
  • Gwaith grŵp, fel dosbarth cyfan neu mewn grwpiau arbenigol
  • Astudio o'ch pen a'ch pastwn eich hun
  • Sesiynau gyda Thiwtor Personol
  • Ystafell Ddosbarth Google

Byddwch yn elwa ar gyfleusterau sydd o'r radd flaenaf yn ystod y cwrs, a fydd yn amrywio o gampws i gampws. Mae'r rhain yn cynnwys stiwdio recordio, offerynnau cerddorol, cyfleusterau cymysgu, lolfa fyw, ystafelloedd trin deunydd digidol Mac, ystafelloedd ymarfer a lolfeydd myfyrwyr.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Asesu mewnol parhaol yn ystod y cwrs, prosiectau ymarferol, aseiniadau, sesiynau gyda thiwtor personol a pherfformiadau.
  • Byddwch hefyd yn cwblhau prosiectau neu aseiniadau ar ddiwedd pob modiwl
  • Y rhai fydd yn gyfrifol am asesu fydd tîm y cwrs, chi eich hun a'r un fydd yn cynnig profiad gwaith.

Dilyniant

Os gwnewch chi gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.

Bydd y cymhwyster yn cyfrannu at eich pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais i ddilyn nifer o gyrsiau Addysg Uwch mewn sawl sefydliad. Mae'r rhain yn cynnwys graddau ym maes Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth, yn ogystal â nifer o bynciau eraill.

Bydd gennych hefyd gyfleodd gwaith posib yn y diwydiant cerddoriaeth, y diwydiannau creadigol a'r sector dechnoleg un ai yn syth neu yn dilyn hyfforddiant pellach. Gall y rhain gynnwys gyrfa fel troellwr disgiau, cerddor, cynhyrchydd, peiriannydd darlledu, rheolwr adloniant, cyfansoddwr neu athro.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor

Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth

Person sy'n defnyddio offer cerdd