Graddau (Addysg Uwch)
Rydym yn cynnig dewis helaeth o gymwysterau lefel uwch, yn cynnwys Graddau Sylfaen a Graddau Anrhydedd, sydd wedi cael eu dilysu'n bennaf gan Brifysgol Bangor. Mae llawer o'n cyrsiau'n arwain at gymwysterau Addysg Uwch galwedigaethol sydd wedi cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr. Eu bwriad yw rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y mae ar gyflogwyr eu hangen a'ch helpu, p'un a ydych yn symud ymlaen i gyflogaeth neu'n awyddus i wella eich sgiliau a'ch gyrfa.
DY BENNOD NESAF
Nid yw pawb yn dilyn yr un llwybr addysgol ac rydym yn annog myfyrwyr o bob math i ddod i'r coleg. Gallech fod yn dod yn syth o'r ysgol neu'r coleg, yn dychwelyd i addysg ar ôl cymryd saib, neu'ch bod am gymryd cam at wella eich gyrfa.
Mae ein cyrsiau gradd yn cynnig y gefnogaeth, yr hyblygrwydd a'r amser cyswllt gyda thiwtor a fydd yn eich helpu chi i lwyddo. I ni, y chi a'ch dyfodol chi sy'n bwysig. Yma, fyddwch chi ddim yn cael eich anghofio yng nghanol llu o fyfyrwyr eraill. Mae ein dosbarthiadau bychan yn golygu ein bod yn dod i'ch adnabod chi fel unigolion.
Beth rydym yn ei gynnig?
Mae Grŵp Llandrillo Menai’n cynnig cyrsiau prifysgol mewn dros 30 maes pwnc, a chaiff mwyafrif ein cyrsiau gradd eu dilysu a'u dyfarnu gan Brifysgol Bangor.
Darperir y rhan fwyaf o'r cyrsiau yn y ganolfan brifysgol arbenigol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, neu ar ein campysau ym Mangor, Llangefni a'r Rhyl. Mae rhai cyrsiau gradd dwyieithog ar gael yn Nolgellau hefyd.
Gall astudio at radd newid eich bywyd mewn sawl ffordd:
- Gwell cyfle i gael gyrfa dda ac ennill dyrchafiad
- Cynyddu'r potensial i ennill cyflog uwch
- Meithrin gwybodaeth a sgiliau
- Magu hunanhyder
- Gwneud ffrindiau newydd
Mae ein dewis eang o gyrsiau gradd yn cynnig cymysgedd o raglenni llawn amser a rhan-amser sydd wedi cael eu cynllunio gyda'ch cyflogadwyedd chi yn y dyfodol mewn golwg.
Os ydych chi am gael gradd heb y drafferth a'r costau o orfod symud oddi cartref, fe allwn ni eich helpu.
Pam dilyn cwrs gradd yn y coleg?
Dyma rai rhesymau pam y dylech chi ddilyn cwrs lefel prifysgol gyda ni.
Pa gyrsiau gradd rydym ni yn eu cynnig?
Rhagor o wybodaeth am y dewis helaeth o raglenni gradd sydd ar gael.
Barn ein Myfyrwyr
Gwrandewch ar beth sydd gan ein myfyrwyr i'w ddweud am ddilyn cwrs gradd yn y coleg.
Cefnogaeth Ariannol a Bwrsariaethau
Mae gwahanol fathau o gefnogaeth ariannol a bwrsariaethau ar gael.
Graddio
Bob blwyddyn mae cannoedd o'n graddedigion yn dathlu eu llwyddiant yn ein seremoni raddio.
Sut i wneud cais
Mae gan bob un o'n cyrsiau gradd feini prawf mynediad penodol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.