Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfleoedd Cymraeg yn y Coleg

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Wyt ti wedi clywed am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol? Mae'r Coleg Cymraeg yn sefydliad sydd eisiau rhoi mwy o gyfleoedd i ti astudio yn Gymraeg, os ydi hynny yn y coleg, neu hyd yn oed trwy brentisiaeth. Mae’r Coleg hefyd yn darparu adnoddau Cymraeg â chynnig Ysgoloriaethau i fyfyrwyr Addysg Uwch. Mae sicrhau fod digon o gyfleoedd cymdeithasol i ti ddefnyddio’r Gymraeg yn bwysig iawn i ni; dyna pam mae rôl y Llysgenhadon a llais myfyrwyr yn greiddiol i’n gwaith. Clicia yma i gael gwybod mwy am y Coleg Cymraeg

Llysgenhadon

Ydi astudio a chymdeithasu yn Gymraeg yn bwysig i ti? Oes gen ti’r sgiliau i ysbrydoli dy ffrindiau i ddefnyddio’r Gymraeg, hyd yn oed os nad ydi nhw’n siarad Cymraeg? Wyt ti’n hyderus o flaen y camera ac ar y cyfryngau cymdeithasol? Alli di drefnu gweithgareddau a digwyddiadau Cymraeg a bod yn lais i ddysgwyr y Coleg?

Rydym yn chwilio am Lysgennad Dysgwr i gynrychioli’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y Coleg. Os hoffet ti gael y cyfle i fod yn ran o gynllun cenedlaethol, heb sôn am gael £100 y flwyddyn a £13 yr awr, gwna gais yma. Dyddiad cau - 10 Hydref 2025.

I dy berswadio ymhellach, gwranda ar fideo Llysgenhadon Coleg Glynllfon sy’n sôn am eu profiad gwerthfawr. Neu darllena am brofiad Alaw Robyns, Llysgennad Coleg Meirion - Dwyfor Pwllheli i gael dy ysbrydoli.

Logo Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Beth ydy Llysgenad?

  • Unigolyn sydd yn barod i ysbrydoli eraill i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.
  • Unigolyn sydd yn weithgar a brwdfrydig, ac yn barod i gynrychioli’r Coleg Cymraeg a’r Grŵp.
  • Unigolyn sydd eisiau cymryd rhan a threfnu digwyddiadau hwyliog, cymdeithasol Cymraeg.
  • Unigolyn sy’n barod i ennill £100 y flwyddyn a £13 yr awr am eu gwaith caled!
  • Unigolyn hyderus ac egniol sydd yn barod i helpu a datblygu’r iaith Gymraeg.
Llysgennad Coleg Cymraeg Cenedlaethol Alaw Robyns

Alaw Robyns - Llysgenad Coleg Meirion-Dwyfor

"Mae fy rôl fel Llysgennad yn cynnwys codi ymwybyddiaeth ymlith fy ngyd-ddysgwyr am yr holl fantesion yn yr coleg, drwy asdudio a hyfforddi drwy gyrfwng yr iaith Gymraeg a hefyd yn ddwyieithog. Y faintais cefais wrth astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a dwyieithog oedd gallu gwella a datblygu fy sgiliau iaith ac ysgrifenedig yn bellach. Mae hyn yn hynod fanteisiol tuag at y dyfodol a thuag at cyfleoedd swyddi, y Brifysgol ag yn y gymuned. Fel Llysgennad, cefais lawer o gyfleoedd Cymraeg yn y Coleg, gan ddod i adnabod llawer o wahanol bobl drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a datblygu fy nefnydd o’r Gymraeg yn y Coleg."

Hoffet ti fod yn Lysgennad?

Ry ni’n chwilio am unigolion brwdfrydig i hybu’r Gymraeg ar draws y Coleg.

Llenwa’Ffurflen Gais a rho gynnig arni! Dyddiad cau - 10/10/25

Adnoddau dwyieithog ar dy gyfer di!

Mae llawer o adnoddau defnyddiol ar gael i’ch helpu chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y Coleg, megis y Porth, Adnoddau, Cysgeir a Geiriadur Prifysgol Bangor ond i enwi rhai. Mae’r holl adnoddau sydd ei angen arna ti ar y wefan Cefnogaeth gyda’r Gymraeg. Gwrandewch ar fideos byr Heledd, ein Swyddog Datblygu Dwyieithrwydd sydd yn eich arwain drwy’r wefan ac yn esbonio’r holl fanteision o astudio’n ddwyieithog.Defnyddia’r poster isod i’th arwain at rai o’r adnoddau.

Porth Adnoddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cynnwys dros 500 o adnoddau dros 30 pwnc gwahanol.

Dewch i wybod mwy

Ap Geiriaduron

Ap cyfieithu Saesneg-Cymraeg a Chymraeg-Saesneg ar gyfer eich ffôn symudol.

Dewch i wybod mwy

Geiriadur yr Academi

Geiriadur ar-lein sydd am ddim i’w ddefnyddio.

Dewch i wybod mwy

Meddalwedd Cysill Cysgeir

Helpu bobl rhugl, dysgwyr a phobl di-Gymraeg i ysgrifennu’n Gymraeg.

Dewch i wybod mwy

Cymraeg Gwaith / Work Welsh

Cwrs ar-lein i helpu fagu hyder siaradwyr rhugl.

Dewch i wybod mwy

Byd term Cymru

Casgliad o dermau sy’n cael eu defnyddio gan gyfieithwyr Llywodraeth Cymru.

Dewch i wybod mwy

Seren Iaith

Mae’r Seren Iaith yn fenter sydd yn cynyddu’r defnydd cymunedol o’r Gymraeg. Mae’n cynnwys arolwg anffurfiol ac adnoddau i ti eu cwblhau ar Moodle er nwyn datblygu dy ddealltwriaeth o iaith a diwyllaint Gymraeg. Cym olwg ar y poster a chlicia ar y wefan Cefnogaeth gyda’r Gymraeg am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan yn y fenter.

Beth Ydy’r Seren iaith?

  • Mae’n fenter i gynnyddu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg.
  • Codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg fel sgil i’r byd gwaith.
  • Mae’n datblygu dy ddealltwriaeth o’r iaith a diwylliant Gymraeg.
  • Mi fydd angen i ti gwblhau Arolwg hwyliog o 10 cwestiwn, dwywaith y flwyddyn.
  • Mae ‘na adnoddau i ti eu cwblhau’n annibynnol neu gyda dy diwtor drwy gydol y flwyddyn.
  • Cer draw i wefan Cefnogaeth efo’r Gymraeg am fwy o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol.
Logo Seren Iaith

Manteision Addysgu’n Ddwyieithog

Mae rhestr hirfaith o fanteision o astudio’n ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg, megis y gallu i ddatblygu sgiliau meddwl uwch, manteisio ar ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a hyd yn oed atal dechreuad symptomau dementia. Cym olwg ar y poster Manteision isod i weld tybed os bydd addysgu’n ddwyieithog yn fuddiol i ti?

The advantages of the Welsh language

  • Agor y drws i fwy o swyddi.
  • Codi dy hunan-hyder.
  • Ennill cyflog uwch.
  • Llwyddo’n well yn y coleg/prifysgol.

Manylion Cyswllt Ein Swyddogion

Sara Edwards

Sara Edwards

Swyddog Cangen CCC

Heledd Jones

Heledd Jones

Swyddog Cangen CCC a Swyddog Dwyieithrwydd

  • Lleoliad: Menai / Meirion Dwyfor / Cross Group
  • Ebost: edward4s@gllm.ac.uk