Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Cymraeg (Ail Iaith)

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi loywi'ch Cymraeg llafar a'ch Cymraeg ysgrifenedig? Ar y cwrs hwn, cewch feithrin eich sgiliau siarad, darllen ac ysgrifennu. Cewch hefyd ehangu'ch gwybodaeth am ddiwylliant a bywyd Cymru. Mae maes llafur y cwrs yn un cydlynol a buddiol dros ben, a bydd yn datblygu'ch sgiliau iaith i safon uwch. Bydd hefyd yn rhoi mwy o ddewis i chi o ran gyrfa ac yn gwella'ch rhagolygon o ran dilyn cwrs Addysg Uwch.

Os ydych wedi cwblhau TGAU haen uwch mewn Cymraeg fel Ail Iaith, ac os ydych am ddal ati i astudio'r iaith, dyma'r cwrs i chi. Gallwch ei ddilyn yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau Lefel AS/Lefel A eraill, neu o bosibl gyda chyrsiau Lefel 3 eraill.

Gall myfyrwyr hŷn hefyd ddilyn y cwrs yn rhan-amser.

Wrth astudio'r Gymraeg, mae gofyn i fyfyrwyr ystyried materion moesol, moesegol, cymdeithasol a diwylliannol wrth ddarllen, astudio a thrafod amrywiaeth eang o lenyddiaeth Gymraeg sy'n cwmpasu sawl canrif. Ar y cwrs AS a'r cwrs A2, byddwch yn astudio nifer o bynciau, gan wella'ch sgiliau a'ch dealltwriaeth.

Blwyddyn 1 (AS)

CA1 Llafar: Yn yr uned hon, byddwch yn astudio'r ffilm Gymraeg 'Hedd Wyn' ac yn ei thrafod mewn arholiad llafar. Cewch fagu hyder i siarad Cymraeg, yn ogystal ag astudio agwedd ar ddiwylliant Cymru.

CA2 Gwaith Cwrs: Yn yr uned hon, byddwch yn edrych ar bwnc o'ch dewis. Dylai'r thema fod yn ymwneud â Chymru e.e. gallech astudio chwaraeon yn y Rhyl, neu dwristiaeth yn eich ardal chi. Drwy wneud hynny, gallwch fireinio'ch gwybodaeth a'ch sgiliau mewn maes penodol.

CA3 Iaith a Barddoniaeth: Yn yr uned hon, byddwch yn astudio saith cerdd Gymraeg, yn dysgu priod-ddulliau Cymraeg, ac yn edrych ar ramadeg y Gymraeg. Wrth wneud hyn, byddwch yn adeiladu ar yr hyn y gwnaethoch ei ddysgu ar eich cwrs TGAU, yn ogystal ag edrych ar agweddau eraill ar ddiwylliant Cymru.

Blwyddyn 2 (A2)

CA4 Llafar: Yn yr uned hon, byddwch yn astudio'r ddrama 'Siwan' ac yn ei thrafod mewn arholiad llafar. Bydd hyn yn ychwanegu at eich gallu i werthfawrogi llenyddiaeth Gymraeg ac yn rhoi hwb i'ch sgiliau iaith.

CA5 Straeon Byrion a Thrawsieithu: Cewch astudio pedair stori fer ac ysgrifennu ymateb i erthygl Saesneg yn y Gymraeg.

CA6 Iaith a Barddoniaeth: Byddwch yn parhau i adeiladu ar yr hyn y gwnaethoch ei ddysgu yn eich cwrs TGAU a'ch cwrs AS. Byddwch yn gwella'ch dealltwriaeth o ramadeg ac yn dysgu sut i werthfawrogi cerddi Cymraeg ar lefel uwch.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd C mewn Cymraeg Ail Iaith

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Dysgu yn y dosbarth
  • Trafodaethau
  • Darllen, ysgrifennu ac ymateb, gan ddadansoddi
  • Gweithio gyda chyfryngau fel ffilmiau, erthyglau a llenyddiaeth

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Caiff y cwrs ei asesu fel a ganlyn:

  • Arholiadau allanol fis Mai a fis Mehefin bob blwyddyn
  • Asesiadau llafar a gwaith cwrs

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau. Ymhlith y cyrsiau gradd y gallwch wneud cais i'w dilyn mae Cymraeg, Astudiaethau Cyfieithu, pynciau ieithyddol eraill, a llawer mwy.

Hefyd, bydd y sgiliau iaith Gymraeg y byddwch yn eu meithrin yn gwella'ch gobaith o gael gwaith ac yn cyfoethogi'ch gallu i werthfawrogi diwylliant a chymunedau Cymraeg. Gallech gael gyrfa yng Nghymru neu du hwnt - mewn llywodraeth leol, yn Llywodraeth Cymru, y sector Iechyd, y sector Addysg neu yn y cyfryngau.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Lefel AS/A
  • Ieithoedd

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Llandrillo-yn-Rhos

Lefel AS/A

Ieithoedd

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Ieithoedd

Dau fyfyriwr yn gweithio yn y dosbarth