Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfleusterau Chwaraeon yn Llandrillo-yn-Rhos

Ar ein Campws yn Llandrillo-yn-Rhos mae gennym ganolfan chwaraeon, campfa a chae pêl-droed 3G awyr agored sydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio.

Cyfleusterau i'w llogi

Chwarae pel droed ar y cae 3G

Cae Pêl-droed 3edd Genhedlaeth

Defnyddiwyd technoleg trydedd genhedlaeth (3G) i greu'r gwair ffug sydd cyn debyced â phosib i wair naturiol o ran perfformiad a nodweddion. Mae'r arwyneb chwarae i'r dim ar gyfer amrediad o chwaraeon, yn cynnwys rygbi, pêl-droed a lacrós, a chan bod llifoleuadau yno, mae'n addas i gynnal gemau beth bynnag fo'r tywydd, yn ystod y dydd neu gyda'r nos.

Mae'r tyweirch artiffisial a wnaed o friwsion rwber yn bodloni safonau'r Gymdeithas Bêl-droed a'r Undeb Rygbi ac maent yn help i atal anafiadau. Golyga fod gennym gyfleusterau y gellir eu defnyddio ymhob tywydd – cyfleusterau sydd cystal â chyfleusterau rhai o'r prifysgolion gorau, fel Loughborough, Leeds a Chaerdydd, sy'n cynnig cyrsiau chwaraeon.

Codi pwysau yn y gym

Ystafelloedd Ffitrwydd Penigam

Mae'r rhain yn ystafelloedd masnachol a modern sy'n llawn cyfarpar ac sy'n cynnwys system aerdymheru. Yn y gampfa, caiff y defnyddwyr gyfle i fagu a thynhau eu cyhyrau a chadw'n heini drwy ddefnyddio peiriannau gwydnwch sy'n cynnwys pwysau sefydlog a phwysau rhydd, offer cardiofasgwlaidd fel melinau traed, beiciau ymarfer a pheiriannau trawsymarfer. Mae yno le hefyd i wneud ymarferion pwysau'r corff ac ymarferion aerobig.

Costau Defnyddio'r Gampfa

Mae'r tâl aelodaeth am ddefnyddio'r Campfeydd yn ystod y tymor yn unig yn £40 y flwyddyn. Fel arall, gallwch dalu £100 am aelodaeth Aur sy'n gadael i chi ddefnyddio'r Campfeydd yn ystod y dydd, fin nos ac ar benwythnosau drwy gydol y flwyddyn.

Chwarae pel rwyd yn y neuadd chwaraeon

Y Neuadd Chwaraeon Fawr

Y neuadd, sy'n cynnwys digon o le i bum cwrt badminton, yw'r ystafell fwyaf. Mae ar gael i'w llogi ar gyfer chwaraeon fel pêl-fasged, pêl-droed, badminton, pêl-law a phêl-foli. Yn y gorffennol, fe'i llogwyd ar gyfer digwyddiadau penodol fel gornestau bocsio, ffeiriau cyfrifiadurol a chystadleuaeth gymnasteg. Mae cyfarpar ac ategolion hefyd ar gael i'w llogi yn y dderbynfa.

Y Balconi

Dyma fan aml-ddefnydd sy'n cynnwys rhwydi criced, matiau crefft ymladd a chyfarpar cylched ffitrwydd. Mae'r Balconi, lle cynhelir rhai o ddosbarthiadau'r ganolfan, yn amgylchedd amlbwrpas y gellir ei archebu am un tro yn unig neu fesul bloc.

Y Stiwdio

Mae'r stiwdio yn lle perffaith ar gyfer gwersi dawnsio a dosbarthiadau cadw'n heini. Mae'r llawr sbring, y system aerdymheru a'r drychau sy'n ymestyn o'r llawr i'r nenfwd, yn gwneud y stiwdio'n amgylchedd gwych ac yno cynhelir dosbarthiadau Pilates, Swmba a throelli, i enwi ond rhai.

Y Cwrt Sboncen

Mae gan y Sefydliad hefyd gwrt sboncen modern gyda waliau gwydr.

Beicio ar y beic ymarfer