Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Eich lles yn y coleg

Yn yr adran hon byddwch yn dysgu am sut rydym yn cefnogi eich lles yn ystod eich amser yn y coleg.

Adduned Lles Grŵp Llandrillo Menai

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i gefnogi lles ein holl ddysgwyr a staff drwy hyrwyddo a darparu ystod o gyfleoedd a gwasanaethau. Mae gofalu am eich lles corfforol, emosiynol a chymdeithasol yn bwysig er mwyn sicrhau eich bod yn mwynhau eich amser ac yn llwyddo yn y coleg.

Mae'r adduned lles yn cefnogi'r broses o roi strategaeth lles y staff a'r dysgwyr ar waith ac yn
crynhoi'r ymrwymiad i gefnogi iechyd meddwl a lles pob un ohonom.

GLLM Wellbeing logo
Eicon cynhwysiant

Byddwn yn cefnogi eich LLES EMOSIYNOL A CHYMDEITHASOL drwy

  • Godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl a lles
  • Darparu cymorth ac arweiniad arbenigol gan dîm o staff ymroddedig
  • Cynnig mynediad i wasanaethau cwnsela a chymorth proffesiynol
  • Datblygu cyfleoedd ar gyfer trafodaethau agored am les
  • Datblygu apiau a phecynnau cymorth i hyrwyddo lles, hunanofal a gwytnwch
Eicon dibynadwyedd

Byddwn yn eich cynorthwyo i GADW'N DDIOGEL drwy:

  • Hyrwyddo diogelu ym mhopeth a wnawn
  • Darparu cymorth personol i ddysgwyr a staff yn ystod absenoldeb
  • Darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar sut i gael perthynas iach â phobl
  • Gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol eraill i gynnig cyngor a chefnogaeth, e.e. ar gamddefnyddio sylweddau
  • Hyrwyddo'r gefnogaeth sydd ar gael a darparu gwiriadau iechyd ar gyfer cyflyrau iechyd cronig posibl
Eicon uchelgais

Byddwn yn eich cynorthwyo i gyfrannu tuag at AMGYLCHEDD CYNALIADWY drwy:

  • Hyrwyddo iechyd amgylcheddol
  • Darparu arweiniad ar sut i fod yn amgylcheddol gynaliadwy
  • Darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu awyr agored
  • Datblygu a hyrwyddo dewisiadau teithio iach
  • Lleihau ein defnydd o blastig untro
Eicon gonestrwydd

Byddwn yn eich cynorthwyo i fod yn IACH A HEINI drwy:

  • Ddynodi a datblygu tîm o Hyrwyddwyr Lles i ddarparu a hyrwyddo cyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau lles cymdeithasol
  • Darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a sesiynau ffitrwydd
  • Darparu cyfleoedd i ymgysylltu â'r gymuned
  • Cynnig dewisiadau bwyta ac yfed iach ar bob safle
  • Hyrwyddo gweithgareddau corfforol

Rydym yma i'ch helpu chi

Gwyliwch y fideo i ddeall sut y gall Tîm Lles y coleg eich cefnogi gyda’ch lles yn ystod eich amser yn y coleg..

Mae’r coleg wedi ymrwymo i greu amgylchedd diogel, cynhwysol a chefnogol lle gall pob dysgwr lwyddo. Mae amrywiaeth eang o gymorth lles ar gael i helpu myfyrwyr i reoli heriau personol, emosiynol a’r rheini sy’n gysylltiedig â llesiant ac allai effeithio ar eu haddysg.

Gall myfyrwyr gael cymorth un-i-un cyfrinachol, mentora a gwasanaethau ymyrraeth gynnar. Mae’r cymorth yn canolbwyntio ar feithrin hyder, datblygu gwytnwch ac annog iechyd meddwl cadarnhaol. Cynigir arweiniad hefyd i ddysgwyr mewn meysydd megis diogelu, lles corfforol ac emosiynol, a gallant gael eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol allanol pan fo angen.

Mae mentrau llesiant, gan gynnwys sesiynau ENGAGE, yn helpu myfyrwyr i feithrin y sgiliau i ymdopi â heriau bywyd bob dydd a datblygu strategaethau ymdopi ar gyfer bywyd a dysgu. Yn gyffredinol, mae darpariaeth lles y coleg wedi’i chynllunio i ddileu rhwystrau, cadw dysgwyr yn ddiogel, ac eu grymuso i lwyddo’n bersonol ac yn academaidd.

Amser i Chi

Mae Amser i Chi yn wasanaeth galw heibio cyfrinachol a ddarperir gan Dîm Lles Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.

Mae'n gyfle i chi gael sgwrsio â rhywun sy'n barod i wrando arnoch a rhoi cefnogaeth i chi ar amrywiaeth o faterion.

Gall dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai lenwi'r ffurflen hunangyfeirio ar-lein (ar e-Drac neu'r Hwb Lles) neu anfon neges e-bost at y tîm staysafe@gllm.ac.uk. Dylai Dysgwyr Seiliedig ar Waith y Consortiwm gysylltu â'u tiwtor neu'u hasesydd yn gyntaf.

Cliciwch yma i gael gwybod rhagor neu i gysylltu â'r Tîm Lles.

Iechyd Rhywiol

Mae Grŵp Llandrillo-Menai yn cynnig gwasanaeth Galw Heibio Iechyd Rhywiol lle gallwch gael cyngor a chymorth cyfrinachol am iechyd rhywiol a llesiant.

Fel darparwr cofrestredig Cerdyn-C, rydym yn darparu condomau am ddim a phecynnau profi STI, y gellir eu cael drwy’r Tîm Lles.

Rydym yn darparu gwybodaeth ar sut i gadw’n ddiogel, iechyd rhywiol, ac rydym hefyd yn gallu eich helpu i gael mynediad at wasanaethau arbenigol allanol.

Darllenwch y ddogfen hon i ddysgu am y gwasanaeth Galw Heibio Iechyd Rhywiol C-Cerdyn sydd ar gael i chi.

Rhaglen Les a Gweithgaredd Corfforol

Mae gennym raglen les a gweithgareddau corfforol yn y coleg ac mae'r Swyddogion Lles, y Swyddogion Cyfoethogi Profiadau a'r Swyddog Rygbi yn gweithio gyda'r dysgwyr i drefnu amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon a gweithgareddau eraill ar bob campws.

Dewch i wybod mwy

Urddas yn ystod Mislif

Gan weithio gyda'n Llysgenhadon Actif, rydym wedi datblygu'r ymgyrch 'Nid yw'n Rhwystr'. Fel rhan o'r ymgyrch hon rydym yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwneud gweithgareddau corfforol gan fod hyn yn lleihau symptomau'r mislif. Y neges yn syml yw na ddylai'r mislif fod yn rhwystr i gymryd rhan mewn addysg na gweithgareddau corfforol. Ochr yn ochr â hyn rydym wedi datblygu sesiynau ymarfer corff y gall dysgwyr eu gwneud o adref.

Cynhyrchion am ddim: Yng Ngrŵp Llandrillo Menai rydym hefyd yn darparu cynhyrchion untro ac amldro ecogyfeillgar AM DDIM, un ai trwy'r Gwasanaethau i Ddysgwyr ar bob campws neu trwy eu dosbarthu i gartrefi'r dysgwyr.

Cliciwch yma i gael gwybod rhagor.

Arolwg ‘Dwi'n iawn’

Un o’r dulliau gweithredu fel rhan o Fframwaith Lles Grŵp Llandrillo Menai, sy’n edrych ar y ffordd orau y gallwn gefnogi eich lles tra byddwch yn astudio gyda ni. Mae'r arolwg hwn ar gael ar hyn o bryd i Ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai sydd â mynediad i eDrac yn unig.

Mae eich lles emosiynol, cymdeithasol a chorfforol yn effeithio ar eich iechyd. Er mwyn i chi deimlo'n iawn mae'n bwysig eich bod chi'n teimlo'n dda (e.e. teimladau o hapusrwydd, bodlonrwydd, mwynhad, chwilfrydedd, ymgysylltu) a gweithredu'n dda (profi perthnasoedd cadarnhaol, cael rhywfaint o reolaeth dros fywyd rhywun, bod â synnwyr o bwrpas).

Mae'r arolwg yn gofyn 15 cwestiwn ynghylch sut rydych chi'n teimlo am eich lles, ac mae'n cynnwys tri maes: lles emosiynol, cymdeithasol a chorfforol.

Cynllun Lles Personol

Ar ôl i chi gwblhau'r arolwg, bydd Cynllun Lles wedi'i bersonoli yn cael ei gynhyrchu ar unwaith. Bydd y Cynllun Lles yn cynnig rhai awgrymiadau hunanofal ar sut y gallwch edrych ar ôl eich hun mewn ffordd iach neu gynnig awgrymiadau ar ble y gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth.

Byddwn yn cynnal yr arolwg dair gwaith y flwyddyn i weld a yw'ch teimladau'n newid yn ystod yr amser hwn ac i weld a yw'ch lles yn gwella.

Bydd rhai o'ch ymatebion yn cael eu plotio ar Seren Lles, felly pan fyddwch chi'n ail-gymryd yr arolwg yn ddiweddarach yn y flwyddyn, byddwch chi'n gallu gweld y cynnydd rydych chi wedi'i wneud.

Gellir dod o hyd i'r arolwg "Dwi'n iawn" ar 'eDrac Dysgwr'. Wedi i chi fewngofnodi, fe welwch faner "Dwi'n iawn" ar y dudalen gartref. Cliciwch ar y faner i ddechrau'r arolwg.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date