Mehefin

Y cyn-fyfyriwr Krystian Koziński gyda'r ddisg aur a gyflwynwyd iddo yng Ngholeg Llandrillo

Cyn-fyfyriwr yn derbyn disg aur ar ôl cyrraedd brig y siartiau a chael rhif 1 ar iTunes

Pan ddychwelodd Krystian Koziński cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Llandrillo yn ddiweddar, cyflwynwyd disg aur iddo i ddathlu ei fod wedi cyrraedd y brig ar siartiau iTunes.

Dewch i wybod mwy
Myfyriwr peirianneg Coleg Menai gyda char Chwaraeon Moduro Menai

Tîm Coleg Menai'n cyrraedd y brig yn yr Her Chwaraeon Moduro i Fyfyrwyr

Ar ôl gwneud argraff dda y tro cyntaf iddynt gymryd rhan yn yr Her Chwaraeon Moduro i Fyfyrwyr ar Drac Môn, mae dysgwyr o Goleg Menai am godi arian er mwyn gallu parhau i gystadlu yn y gyfres.

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr Peirianneg Awyrennol gyda’r injan jet ar gampws Coleg Menai yn Llangefni

Injan jet Ymladd yr Awyrlu yn cael ei rhoi yn anrheg i'r coleg

Mae injan jet wedi’i danfon i gampws Coleg Menai yn Llangefni, diolch i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, RAF y Fali, Babcock International a Rolls Royce.

Dewch i wybod mwy
Arian Williams gyda gweddill enillwyr Seremoni Gwobrwyo Cyflawnwyr Addysg Bellach Coleg Menai

Grŵp Llandrillo Menai'n dathlu llwyddiannau ei fyfyrwyr

Mewn seremonïau'r wythnos diwethaf, dathlwyd llwyddiannau dros 80 o fyfyrwyr addysg bellach Grŵp Llandrillo Menai.

Dewch i wybod mwy
Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones yn gwylio'r myfyrwyr ar waith ym mwyty'r Orme View yng Ngholeg Llandrillo

Coleg Llandrillo'n croesawu Comisiynydd y Gymraeg

Yn ddiweddar, croesawodd Grŵp Llandrillo Menai Gomisiynydd newydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, i gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Dewch i wybod mwy
Adam Hopley a chyd fyfyrwyr gyda'u medalau arian o'r gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion 2022

Mae'r Grym yn gryf gyda myfyriwr o Goleg Menai a greodd ei sabr golau ei hun

Mae'r Grym yn gryf gyda myfyriwr o Goleg Menai a greodd ei sabr golau o faintioli llawn fel rhan o'i gwrs peirianneg electronig.

Dewch i wybod mwy
Tiwtor Glenydd Hughes yn dysgu sgiliau coginio i ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6

Plant Ysgolion Cynradd yn cael bod yn Gogyddion am y Diwrnod yng Ngholeg Llandrillo

Yn ddiweddar, cafodd blant o ysgolion cynradd gyfle i fod yn gogyddion am y diwrnod yng Ngholeg Llandrillo - lle buont yn coginio Bolognese, yn cymysgu coctels di-alcohol ac yn gwylio arddangosiad flambé.

Dewch i wybod mwy
Y Myfyrwyr Peirianneg Chwaraeon Moduro gyda'r Peugeot 107 a fydd yn cystadlu yn yr Her Chwaraeon Moduro i Fyfyrwyr

Myfyrwyr o Goleg Menai'n cymryd rhan mewn Her Chwaraeon Moduro ar Drac Môn

Y penwythnos hwn, bydd myfyrwyr o Goleg Menai'n cymryd rhan yn yr Her Chwaraeon Moduro i Fyfyrwyr ar Drac Môn.

Dewch i wybod mwy
Elgan Jones, myfyriwr o Goleg Llandrillo, yn derbyn tystysgrif yr enillydd gan Jason Williams, perchennog Williams Estates

Gwerthwyr tai llwyddiannus yn arddangos gwaith celf myfyrwyr

Bydd gwerthwyr tai sydd wedi ennill sawl gwobr yn arddangos gwaith celf myfyrwyr mewn sawl un o'u canghennau, wedi iddynt greu argraff ar y beirniaid mewn cystadleuaeth ddarlunio flynyddol.

Dewch i wybod mwy

Grŵp Llandrillo Menai'n Ehangu ei Bresenoldeb yng Ngogledd Cymru

Bydd canolfan hyfforddi newydd ym maes prentisiaethau, busnes a chymwysterau proffesiynol yn agor cyn hir fel rhan o gynlluniau newydd a chyffrous Busnes@LlandrilloMenai, gwasanaeth gan Grŵp Llandrillo Menai sy'n darparu hyfforddiant proffesiynol, arbenigol a seiliedig ar waith i fusnesau.

Dewch i wybod mwy
Y tiwtor Cymraeg Helen Roberts a'i myfyrwyr wrth y fainc gyfeillgarwch

Dysgwyr Cymraeg yn addurno 'Mainc Gyfeillgarwch' i groesawu ymwelwyr i'r Eisteddfod Genedlaethol

Mae 'mainc gyfeillgarwch' a addurnwyd gan ddysgwyr Cymraeg i ddathlu ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r ardal wedi cael ei gosod mewn lleoliad canolog yng Nghricieth.

Dewch i wybod mwy
Lois Roberts gyda myfyrwyr eraill yr adran Peirianneg Forol

Myfyriwr peirianneg forol yn codi hwyl

Mae myfyrwraig 18 oed sy'n dilyn cwrs Peirianneg Forol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ar fin cychwyn i Croatia i weithio i gwmni gwyliau Sunsail.

Dewch i wybod mwy
Daniel Pirie o Goleg Meirion-Dwyfor yn dangos ei stand ffôn symudol

Fformiwla Un yn ysbrydoli gwaith myfyriwr peirianneg

Rhan o asesiad terfynol y myfyrwyr peirianneg oedd dylunio a chreu stand ar gyfer ffôn symudol, a'r hyn a ysbrydolodd un ohonynt oedd ei ddiddordeb mewn rasio Fformiwla Un.

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr yn cwrdd â chyflogwyr yn ffair swyddi CaMVA ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli.

Digwyddiadau CaMVA'n cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu â chyflogwyr

Trefnwyd cyfres o ffeiriau swyddi ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gwrdd â chyflogwyr posib. Bu rhai'n ddigon ffodus i gael eu gwahodd i gyfweliadau am swyddi.

Dewch i wybod mwy
Cian Green yn codi pwysau

Myfyrwyr Coleg Menai'n codi pwysau dros Gymru

Bydd myfyriwr a chyn-fyfyriwr o Goleg Menai yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau'r Gymanwlad yn India fis nesaf.

Dewch i wybod mwy
Logo Y Ddraig Werdd

Grŵp Llandrillo Menai’n Arloesi Gyda Charbon Sero Net

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ennill Gwobr Amgylcheddol Lefel 5 y Ddraig Werdd eleni eto, mewn cydnabyddiaeth o'i reolaeth amgylcheddol effeithiol.

Dewch i wybod mwy
Daeth Owen Vaughan i gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau i siarad gyda myfyrwyr arlwyo a lletygarwch.

Cystadleuwr a gyrhaeddodd rownd derfynol Masterchef yn dychwelyd i Goleg Meirion-Dwyfor i ysbrydoli'r myfyrwyr arlwyo

Daeth Owen Vaughan, a gyrhaeddodd rownd derfynol y gyfres Masterchef, yn ôl i Goleg Meirion-Dwyfor yn ddiweddar i ysbrydoli myfyrwyr.

Dewch i wybod mwy
Daniel Pirie yn datblygu sgiliau ar y cwrs Lefel 3 Peirianneg Gyffredinol Uwch

Sgiliau peirianneg myfyrwyr ar waith mewn asesiadau terfynol

Dangosodd myfyrwyr o Grŵp Llandrillo Menai eu sgiliau a'u gallu i ddilyn gyrfa ym maes peirianneg yn ystod asesiadau terfynol eu cwrs ble gofynnwyd iddynt gwblhau gwasanaeth ar injan 126cc Briggs and Stratton pedwar strôc.

Dewch i wybod mwy
Gweithiodd Ben Hughes (chwith) a Brody White ar gampws newydd Coleg Menai ym Mangor tra oedden nhw ar brofiad gwaith gyda Read Construction

Myfyrwyr ar brofiad gwaith yn helpu gyda'r gwaith o drawsnewid Tŷ Menai

Cafodd dau o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai gyfle i gyfrannu at y gwaith o drawsnewid adeilad Coleg Menai yn Nhŷ Menai tra oedden nhw ar leoliad profiad gwaith gyda Read Construction.

Dewch i wybod mwy