Datblygiad ac Addysg Plant

Mae galw cynyddol am weithwyr gofal plant. Mae'r swyddi allweddol hyn yn helpu i gefnogi lles a datblygiad plant a phobl ifanc ein gwlad.

Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?

Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau Lefel 1 hyd at gyrsiau lefel Gradd. Rydym hefyd yn cynnig Prentisiaethau.

Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.


Bydd ein cyrsiau'n rhoi gwybodaeth a sgiliau ymarferol i chi ar gyfer gweithio yn y sector cyffrous hwn.

Ar ôl gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau a swyddi blynyddoedd cynnar eu hunain, mae ein darlithwyr yn arbenigwyr yn eu maes, ac yn gallu trosglwyddo’r arbenigedd hwn wrth addysgu. Yn ogystal, rydym yn defnyddio ein cysylltiadau helaeth i roi mynediad i chi i wybodaeth a chyfleoedd nad ydynt fel arfer ar gael trwy lwybrau eraill.

Rydym yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys awdurdodau lleol, darparwyr gofal plant a meithrinfeydd, sefydliadau elusennol a sefydliadau fel Medrwn Môn, Dechrau’n Deg, y Mudiad Meithrin ac ati. Trwy'r rhain rydym yn gallu darparu lleoliadau gwaith o ansawdd uchel, dealltwriaeth o'r sector a siaradwyr gwadd.

Bob blwyddyn mae ein dysgwyr yn symud ymlaen yn llwyddiannus i waith yn y sector, neu i astudiaethau pellach ar lefel uwch. Mae llawer o ddysgwyr yn symud ymlaen i brifysgol – naill ai ar un o'r cyrsiau a gynigir yma yn y coleg neu i brifysgolion eraill ledled y DU. Mae rhai dysgwyr hefyd yn dewis symud ymlaen i un o'n llwybrau prentisiaeth.

Mae cyfleoedd gwaith yn y maes hwn yn cynnwys swyddi fel Cynorthwywyr Cymorth Dysgu, Gweithwyr Meithrinfa yn y sectorau cyhoeddus ac annibynnol, Therapyddion Chwarae, Therapyddion Iaith a Lleferydd neu Weithwyr Cymdeithasol.