Lletygarwch ac Arlwyo

Yn ddiweddar, cafodd ein hadrannau Lletygarwch radd ‘Rhagoriaeth’ gan Estyn, Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

  • Y maes rhaglen Lletygarwch ac Arlwyo yw’r unig un yng Nghymru sy’n darparu cyrsiau llawn amser a rhan-amser, o Lefel 1 hyd at Raddau Anrhydedd, mewn Celfyddydau Coginio a Rheoli ym maes Lletygarwch. Mae hefyd yn darparu prentisiaethau, cymwysterau NVQ a hyfforddiant wedi’i deilwra i rai sy’n gweithio yn y diwydiant.

Yma, cewch y cyfle i gael eich dewis i gymryd rhan ym Mhencampwriaethau Coginio Cymru lle mae’n dysgwyr wedi cael llwyddiant sylweddol dros y blynyddoedd. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau cenedlaethol, yn cynnwys Torque Dôr, Seafish a Worldskills.

Mae lleoliadau gwaith ar draws Ewrop, a ariennir y llawn gan raglen Erasmus+, yn rhoi cyfle i chi feithrin sgiliau cyflogadwyedd.

Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser yn y meysydd a ganlyn:

  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd a Diod
  • Patisserie a Danteithion Melys Proffesiynol
  • Coginio Proffesiynol (Cegin a Phantri)

Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?

Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau Lefel 1 hyd at gyrsiau lefel Gradd. Rydym hefyd yn cynnig Prentisiaethau.

Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.


Gyrfa mewn Lletygarwch ac Arlwyo


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.

Cogydd yn coginio mewn cegin