Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Iaith Saesneg

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae geiriau yn ein helpu i fynegi ein barn ar y byd a'r bobl o'n cwmpas. Os yw rhywun yn "dda gyda geiriau" gallant gyfleu syniadau a barn yn effeithiol.

Bydd astudio'r Iaith Saesneg yn datblygu sgiliau a fydd yn ddefnyddiol ar sawl lefel: yn academaidd, yn gymdeithasol, a hefyd yn y gweithle.

Blwyddyn 1 (Lefel AS)

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn canolbwyntio ar ddysgu cysyniadau a thermau ieithyddiaeth. Byddwch yn ennill dealltwriaeth sylfaenol o'r pwnc, gan gynnwys astudiaeth o iaith lafar ac iaith ysgrifenedig.

Uned 1: Archwilio Iaith - Mae'r uned hon yn cynnwys papur arholiad ysgrifenedig sydd yn gofyn i chi ddadansoddi nifer o destunau iaith.

Uned 2: Materion Dysgu ac Ysgrifennu Gwreiddiol a Chreadigol - Mae'r uned hon yn cynnwys papur arholiad ysgrifenedig sydd yn gofyn i chi edrych ar faterion ieithyddol a defnyddio iaith yn greadigol.

Blwyddyn 2 (Lefel A)

Bydd yr ail flwyddyn yn ehangu ar eich dealltwriaeth o'r pwnc, gan gynnwys eich gwerthfawrogiad o Ddatblygiad Iaith.

Uned 3: Iaith dros Amser – Yn yr uned hon byddwch yn dysgu mwy am sut mae'r iaith Saesneg wedi datblygu ac yn parhau i ddatblygu dros amser, o'r 5ed ganrif OC hyd heddiw.

Uned 4: Iaith Lafar ac Ail-gastio creadigol - Yn yr uned hon byddwch yn ymgysylltu â'r iaith lafar i lunio darn ysgrifenedig gwreiddiol ac i gyfathrebu'n greadigol mewn amryw o ddulliau.

Uned 5: Iaith a Hunaniaeth - Mae'r uned hon o waith cwrs yn rhoi cyfleoedd ar gyfer gwaith ymchwil ieithyddol sy'n berthnasol i chi. Byddwch yn cynnal ymchwiliad, gydag arweiniad penodol a manwl gan eich tiwtor.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Dysgu yn y dosbarth
  • Trafodaethau
  • Darllen ac ysgrifennu dadansoddol
  • Ymchwil annibynnol
  • Gwaith grŵp
  • Dadleuon

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu fel a ganlyn:

  • Cynhelir arholiadau allanol ym mis Mehefin bob blwyddyn
  • Bydd unedau'r gwaith cwrs yn cael eu cwblhau yn gynharach yn y flwyddyn

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau. Ymhlith y cyrsiau gradd y gallwch wneud cais i'w dilyn mae Ieithyddiaeth a phynciau ieithyddol eraill a llawer mwy.

Bydd y sgiliau byddwch yn eu meithrin wrth astudio Iaith Saesneg yn cyflwyno amrywiaeth eang o gymwysiadau, ac yn ddefnyddiol ar gyfer lawer o gyrsiau israddedig.

Byddwch hefyd yn gwella'ch rhagolygon o ran gyrfa, ac os dewiswch fynd yn syth i waith, gallwch wneud cais am amrediad eang o swyddi.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • International
  • Lefel AS/A

Dwyieithog:

n/a

Lefel AS/A