Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ynglŷn â Grŵp Llandrillo Menai

Sefydlwyd Grŵp Llandrillo Menai yn 2012 yn dilyn uno Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor. Mae'n cyflogi 2,000 o staff ac yn darparu cyrsiau i tua 21,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys dros 1,500 o fyfyrwyr addysg uwch, ledled Ynys Môn a siroedd Conwy, Dinbych a Gwynedd.

Bwriad y Grŵp yw cefnogi economi Gogledd Cymru drwy roi i'r bobl leol y sgiliau a'r cymwysterau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y rhanbarth yn gystadleuol ac yn llwyddiannus. Mae'r amrywiaeth eang o gyrsiau, y profiadau dysgu o safon uchel, y cyfleusterau penigamp a'r staff amryddawn sydd gan y Grŵp oll yn cyfrannu at gyflawni'r nodau hyn.

Oherwydd y cyfleoedd ychwanegol a gynigir i astudio cyrsiau gradd ac i ennill cymwysterau proffesiynol, gall mwy o bobl ifanc a dysgwyr hŷn gyflawni eu potensial. Mewn Canolfan Brifysgol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, ceir cyfleusterau gwych i fyfyrwyr Addysg Uwch y Grŵp.

Logo GLLM gyda logos y colegau oddi tano
Graffeg gyda'r 5 themau allweddol wedi ei nodi

Cynllun Strategol

Mae ein cynllun yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant ein cynllun blaenorol drwy ymgorffori'r hyn a ddysgwyd o heriau'r pandemig, rhoi ffocws newydd ar faterion amgylcheddol a mynd ati o ddifri i hyrwyddo arloesedd. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddarparwr Addysg Bellach arweiniol yng Nghymru a thu hwnt.

Mae ein cenhadaeth o 'Wella Dyfodol Pobl' yn cyfleu pwrpas ein sefydliad addysg bellach. Er bod darparu cymwysterau'n llwyddiannus yn hanfodol i ni, rydym hefyd yn cael effaith sylweddol ar gydlyniant cymdeithasol a datblygiad economaidd. Ein bwriad yw chwarae rhan flaenllaw yn ein cymunedau a darparu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi llwyddiant yng Ngogledd Cymru.

Dewch i wybod mwy...

Aled Jones-Griffith

Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr

Mae Aled Jones-Griffith wedi bod yn gweithio yn y sector addysg bellach ers dros bymtheg mlynedd: bu'n gyfarwyddwr cyfadran yng Ngholeg Menai ac yna'n Bennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor cyn cael ei benodi'n Bennaeth ar Goleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor yn 2018 ac yna yn Brif Weithredwr yn 2024.

Cyn ymuno â'r sector addysg bellach, gweithiodd Aled fel rheolwr mewn amryw o sectorau gan dreulio pedair blynedd yn Brif Weithredwr ar Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn. Gwasanaethodd hefyd ar Gyngor Cynulleidfa Cymru'r BBC am ddau dymor. Yn ystod y cyfnod hwn cafodd y fraint o draddodi darlith ar Hanes yr Iaith Gymraeg i'r Gymdeithas Smithsonian yn Washington DC.

Graddiodd Aled mewn Astudiaethau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i ennill Tystysgrifau Ôl-radd mewn Rheoli Cefn Gwlad a Datblygu Cymunedol.

Yn ogystal â'i swydd fel Pennaeth, mae gan Aled gyfrifoldeb cyffredinol ar draws Grŵp Llandrillo Menai am Ddysgu Oedolion yn y Gymuned. Mae hefyd yn cynrychioli GLlM ar Grŵp Rhanddeiliaid Sgiliau Ffilm a Theledu Cymru Greadigol a Grŵp Llywio'r Gogledd Creadigol.

Mae gan Aled ddiddordeb mawr mewn chwaraeon ac mae wedi cyfrannu i'w glwb pêl-droed lleol dros y blynyddol drwy wneud swyddi amrywiol. Mae'n cael pleser mawr o weld pobl ifanc yn cyflawni eu potensial ym mhob agwedd ar eu bywydau. Ei flaenoriaeth yw sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd a'r gefnogaeth orau bosibl i lwyddo.

Logo Coleg Menai a Meirion Dwyfor

Dr Sion Peters-Flynn, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor

Gwybodaeth i ddilyn.

Logo Coleg Llandrillo

Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo

Gwybodaeth i ddilyn.

Sharon Bowker

Sharon Bowker, Uwch Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

Astudiodd Sharon Bowker ieithoedd a'r gwyddorau cyn cymhwyso fel cyfrifydd rheoli siartredig (CIMA) a bu'n gweithio i gwmnïau gweithgynhyrchu mawr fel BASF a Tetra Pak, cyn symud i'r sector addysg yn 2005.

Mae Sharon wedi bod mewn nifer o uwch swyddi yn y sectorau Academiau ac Addysg Bellach yn Lloegr, gyda chyfrifoldeb am wasanaethau cefnogi fel ystadau, arlwyo, marchnata, Adnoddau Dynol, cyllid, Technoleg Gwybodaeth, gweinyddu a chyllido. Mae ganddi brofiad ym maes uno colegau ac o reoli datblygiadau cyfalaf ar wahanol safleoedd.

Ymunodd Sharon â'r Grŵp yn 2022 fel Uwch Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol.

James Nelson

James Nelson, Uwch Gyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd

Mae James Nelson yn gyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo. Astudiodd am Ddiploma Cenedlaethol mewn Astudiaethau Busnes yma cyn mynd ymlaen i Goleg Polytechnig Manceinion a graddio mewn Busnes a Chyllid.

Ar ôl graddio, penodwyd James yn Ddarlithydd mewn Technoleg Gwybodaeth. Enillodd achrediadau MCSE a CCNA gan ddatblygu rhaglenni Microsoft a Cisco arloesol ar gyfer Addysg Uwch.

Daeth James yn Rheolwr Ansawdd yng Ngholeg Llandrillo, ac yna fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Ansawdd a Chwricwlwm. Yn y swydd hon arweiniodd y prosesau ansawdd, cynllunio a datblygu staff oedd ynghlwm â'r uno â Choleg Meirion-Dwyfor.

Mae James yn Adolygydd Cymheiriaid i'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ac arweiniodd y Grŵp drwy Adolygiad Addysg Uwch yn 2016. Yn yr adolygiad hwn cafodd y Grŵp ei gymeradwyo am wella cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr a thynnwyd sylw at 6 enghraifft o arfer da.

Yn 2017, penodwyd James yn Uwch Gyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd gyda chyfrifoldeb trawsgolegol am Sgiliau, Ansawdd a Pherfformiad, Cynllunio'r Cwricwlwm, Cymorth Dysgu, Marchnata, Gwasanaethau i Ddysgwyr a Llyfrgelloedd.

Fel enwebai, yn 2017 arweiniodd James y Grŵp drwy Arolygiad AB llwyddiannus oedd yn cynnwys 8 dyfarniad Rhagorol, 7 dyfarniad Da a dwy astudiaeth achos o "arferion gorau'r sector". Mae James yn Arolygwr Cymheiriaid i Estyn ac wedi bod yn rhan o sawl arolygiad o Golegau AB a darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith.

Gwenllian Roberts

Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr – Datblygiadau Masnachol

Ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yna ennill MSc mewn asesu effeithiau amgylcheddol, dechreuodd Gwenllian ei gyrfa yn niwydiant olew a nwy'r Deyrnas Unedig. Ond maes o law, wrth i ffocws ei gyrfa newid, dychwelodd i ogledd Cymru.

Mae hi wedi bod mewn swyddi blaenllaw ym maes datblygu economaidd a rhanbarthol gan fod yn gyfrifol am y cyswllt rhwng diwydiant a llywodraeth mewn meysydd fel ynni, dur, dŵr a'r amgylchedd. Cyn ymuno â GLlM Gwenllian oedd Cyfarwyddwr OFWAT ar gyfer Cymru ac Ymgysylltu â'r Llywodraeth, a chyn hynny hi oedd Prif Swyddog Rhanbarthol Llywodraeth Cymru yng ngogledd Cymru. Trwy gydol ei gyrfa mae Gwenllian wedi hyrwyddo gweithio'n gydweithredol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.

Fel yr Uwch Gyfarwyddwr sy'n gyfrifol am Ddatblygiadau Masnachol mae Gwenllian â'i bryd ar ddefnyddio arbenigedd ac enw da Busnes@LlandrilloMenai i fanteisio ar bob cyfle ac i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu economi gogledd Cymru. Mae hi wedi ymroi i feithrin arloesedd a chefnogi busnesau mewn sectorau allweddol i ffynnu a llwyddo, tra hefyd yn hybu cenhadaeth y sefydliad i rymuso unigolion a busnesau i lawn gyflawni eu potensial. Yn ei swydd mae hi am adeiladu ar lwyddiant Busnes@LlandrilloMenai a sicrhau ei fod ar flaen y gad wrth gefnogi twf economaidd a ffyniant yng ngogledd Cymru.