Tyfwch eich busnes gyda ni
Darparwn hyfforddiant proffesiynol ac arbenigol i fusnesau yng ngogledd Cymru.
Mae Cyfrif Dysgu Personol yn ffordd hyblyg o gael hyfforddiant a chyrsiau am ddim mewn amrywiaeth eang o feysydd.
Mae Grŵp Llandrillo Menai'n dathlu dros 20 mlynedd fel darparwr achrededig cymwysterau marchnata a marchnata digidol proffesiynol gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM).
Mae Claire Elizabeth Hughes, prentis Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 gyda Busnes@LlandrilloMenai wedi ennill gwobr 'Talent Newydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er cof am Gareth Pierce'. Mae'r wobr yn cydnabod unigolion sydd wedi dangos talent arbennig ac wedi serennu yn y gweithle.
Cafodd canolfan ddatgarboneiddio arloesol ym Mhenygroes - y cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig ei hyrwyddo mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd ar gyfer Aelodau'r Senedd ym Mae Caerdydd yn diweddar.
Cyflwynwyd graddau, cymwysterau lefel prifysgol a dyfarniadau proffesiynol i dros 500 o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn y seremoni raddio flynyddol yn Llandudno