Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Celf, Crefft a Dylunio

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n gobeithio dilyn gyrfa ym maes celf a dylunio? Hoffech chi feithrin eich gwybodaeth a'ch sgiliau, gan ddysgu amrywiol dechnegau a gweithio gyda gwahanol ddefnyddiau?

Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer amrediad eang o fyfyrwyr sydd am ddilyn cwrs Celf a Dylunio safon uwch. Yn ogystal â datblygu'ch gwaith creadigol, bydd yn eich paratoi ar gyfer Addysg Uwch ac ar gyfer byd gwaith. Bydd y cwrs, sy'n ymdrin â'r amrywiaeth eang o bynciau a nodir isod, yn rhoi boddhad a her i chi.

Gallwch ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau AS eraill, neu o bosibl gyda chymwysterau Lefel 3 eraill.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd C mewn pwnc creadigol ynghyd â ffolder o waith

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • Cefnogaeth Tiwtorial
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, i gael y Lefel AS, byddwch yn cwblhau un uned gwaith cwrs, sy'n cyfateb i 40% o'r cymhwyster Lefel A llawn. Caiff yr uned hon ei hasesu drwy gyfuniad o asesiadau interim ac adborth a chaiff ei safoni'n allanol ar derfyn y flwyddyn AS.

Yn ystod yr ail flwyddyn, i gael y Lefel A lawn, byddwch yn cwblhau 'Ymchwiliad Personol' ac 'Aseiniad a Osodwyd yn Allanol' a fydd, gyda'i gilydd, yn cyfateb i 60% o'r cymhwyster Lefel A llawn.

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster ychwanegol a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn ennill pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am le ar amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn sawl sefydliad.

Os dewiswch barhau i astudio'r pwnc hwn, mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig Diploma mewn Astudiaethau Sylfaen: Celf a Dylunio, a fydd yn eich galluogi i ddilyn cwrs Addysg Uwch naill ai yn y Grŵp neu mewn sefydliad arall.

Mae'r Grŵp hefyd yn cynnig y cyrsiau gradd a ganlyn:

  • Gradd Sylfaen (FdA) Celf a Dylunio
  • Gradd Sylfaen (FdA) Ffotograffiaeth
  • BA (Anrh) Celfyddyd Gain

O ran gyrfa, gall eich dewisiadau gynnwys gweithio'n annibynnol fel dylunydd, artist neu grefftwr, neu weithio yn y diwydiannau creadigol e.e. ym maes ffasiwn, hysbysebu, dylunio gwefannau, cyhoeddi, darlunio, animeiddio neu ddylunio cynnyrch.

Ymhlith cyfleoedd eraill o ran gyrfa mae'r byd addysg, gweithio mewn oriel/amgueddfa neu ym myd y theatr – yn dylunio setiau/ gwisgoedd/coluro ac ati, gwaith archifo/adfer, ffoto-newyddiaduriaeth a marchnata.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • International
  • Lefel AS/A

Dwyieithog:

n/a

Lefel AS/A