Dw i wedi bod â diddordeb mewn peirianneg ers pan o’n i’n ddim o beth, a ches fy annog gan fy nheulu i geisio cael gyrfa yn y maes. Mae’r coleg wedi dysgu cymaint i mi, ym maes peirianneg ac yn gyffredinol. Ar ôl ennill y cymhwyster rydw i’n awr wedi cael prentisiaeth ym maes Peirianneg Sifil. Fy ngobaith yn y pen draw ydi mynd ymlaen i astudio am radd.
Rhys Thomas Williams - Peirianneg Lefel 3