Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Darperir eich hyfforddiant mewn salon o’r radd flaenaf a chewch eich dysgu sut i ddefnyddio’r technegau a’r cynhyrchion diweddaraf, yn cynnwys rhai Wella, Goldwell, Dermalogica a Tan Truth.

Mae’r Grŵp yn gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Francesco sy’n adnabyddus iawn ac wedi ennill llu o wobrau.

Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cystadlaethau mewnol blynyddol a fynychir gan gyflogwyr lleol, yn ymweld ag arddangosfeydd cenedlaethol ac yn cael profiad gwaith. Bob blwyddyn, mae’n myfyrwyr yn ennill cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol.

Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser yn y meysydd a ganlyn:

  • Gwaith Barbwr
  • Therapi Harddwch
  • Trin Gwallt
  • Therapi Tylino
  • Technoleg Ewinedd
  • Therapi Sba
  • Ffasiwn, Theatr a Chyfryngau

Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?

Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau Lefel 1 hyd at gyrsiau Lefel 3. Rydym hefyd yn cynnig Prentisiaethau.

Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.


Gyrfa mewn Trin Gwallt a Therapi Harddwch


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.