Technoleg Forol

Ymhlith y pynciau a gynigir y mae gwaith coed, gwaith plastig wedi’i gryfhau â gwydr, systemau mecanyddol, systemau gyrru ac electroneg forol.

Yn ystod y flwyddyn, trefnir cyrsiau arbenigol, fel cyrsiau RYA, cyrsiau sy’n ymdrin ag injans disel a chyrsiau VHF. Pan na fyddant ar y campws, caiff myfyrwyr gyfle i ddefnyddio a llywio cychod a meithrin eu sgiliau morwriaeth.

Oherwydd yr hyn ro’n i wedi’i ddysgu yn y coleg, ges i’r cyfle i gael profiad gwaith gydag amrywiaeth eang o sefydliadau yn Llydaw, Ffrainc ac ar draws y Deyrnas Unedig! Erbyn hyn rydw i’n gweithio i’r elusen Island Trust ac yn dysgu sgiliau morwriaeth a hwylio i bobl ifanc.

Sally Fishlock - Peirianneg Forol Lefel 3