Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Pam dilyn cwrs gradd yn y coleg?

Pa gymhwyster bynnag a ddewiswch, gallwn eich sicrhau y bydd safon yr addysgu'n ardderchog ac y cewch gefnogaeth bersonol.

Dyma ddeg rheswm pam y dylech ddilyn cwrs gradd yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

AROS YN LLEOL
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai gallwch ddilyn cwrs gradd yma ar garreg eich drws, heb orfod symud i fynd i brifysgol. Darperir y rhan fwyaf o'r cyrsiau yn y Ganolfan Brifysgol yn Llandrillo-yn-Rhos, ac mae rhai rhaglenni ar gael yn lleol ar ein campysau ym Mangor, Dolgellau, Llangefni a'r Rhyl.

CEFNOGAETH
Mae pob myfyriwr gradd yn cael Tiwtor Personol penodol. Mae'r dosbarthiadau'n fychan, felly bydd gan eich tiwtoriaid arbenigol fwy o amser i roi cefnogaeth a sylw personol i chi. Gall ein staff cyfeillgar yn y Gwasanaethau i Ddysgwyr hefyd eich cynorthwyo gyda'ch CV a thechnegau cyfweliad, yn ogystal â rhoi cyngor gyrfaol i chi.

Yn 2016, derbyniodd y Grŵp gymeradwyaeth yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) am wella cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr. Roedd y Grŵp ymhlith yr unig bedwar coleg allan o 62 coleg ledled Cymru a Lloegr i dderbyn cymeradwyaeth o’r fath.

FFORDDIADWY A HYGYRCH
Os byddwch yn byw gartref, gallech arbed rhai miloedd o bunnau gan na fydd angen i chi dalu'r costau llety y mae'n rhaid i fyfyrwyr sy'n byw oddi cartref eu talu. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, gall bwrsariaethau ychwanegol fod ar gael.

CYFLEUS A HYBLYG
Mae ein hamserlenni wedi'u cynllunio i'w gwneud yn haws i chi gyfuno'ch astudiaethau â'ch swydd, eich cyfrifoldebau teuluol a'ch ymrwymiadau eraill. Cynhelir ein holl gyrsiau llawn amser a rhan-amser dros un neu ddau ddiwrnod yr wythnos yn unig, ac mae rhai ohonynt ar gael fin nos.

CYFLEOEDD GWAITH
Datblygir ein cyrsiau gradd mewn ymgynghoriad â chyflogwyr lleol er mwyn sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau diweddaraf sydd eu hangen ar gyflogwyr. Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n gyson i sicrhau eu bod yn arwain at gyfleoedd gwaith go iawn. Mae llawer o'n rhaglenni hefyd yn cynnwys profiad gwaith, lleoliadau gwaith, siaradwyr gwadd ac ymweliadau.

DILYNIANT
Mae ein holl gyrsiau Gradd Sylfaen yn eich galluogi i fynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd anrhydedd, un ai gyda ni neu mewn prifysgol arall ac mae llawer o'n myfyrwyr
yn cael dyrchafiad yn eu gwaith. Rydym hefyd yn cynnig dewis helaeth o gyrsiau Mynediad i Addysg Uwch i'r sawl sy'n dymuno dychwelyd i fyd addysg er mwyn
gwneud rhywbeth newydd neu newid gyrfa, ac mae sawl llwybr gwahanol ar gael.

ENW DA
Yn adolygiad diweddaraf yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), derbyniodd y Grŵp gymeradwyaeth am 'wella cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr'.

STAFF ADDYSGU ARBENIGOL

Mae gan ddarlithwyr ein cyrsiau gradd lawer o brofiad o addysgu ar lefel uwch. Mae gan lawer o'n staff gymwysterau lefel uwch fel graddau Doethuriaeth a Meistr ac mae rhai ohonynt wedi bod yn rhan o waith ymchwil mewn prifysgolion. Mae gan lawer o'r staff brofiad o weithio mewn diwydiant, felly gall ein myfyrwyr gradd elwa ar eu profiad galwedigaethol helaeth.

Y GYMRAEG
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi'r Gymraeg ac rydym yn darparu cyfleoedd i bob myfyriwr gradd gael ei asesu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhai cyrsiau'n cael eu haddysgu'n ddwyieithog ac mae yna hefyd fwrsariaeth Gymraeg ar gael i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg.

CYFLEUSTERAU O'R RADD FLAENAF
Darperir llawer o'r cyrsiau ar gampws Llandrillo-yn-Rhos mewn canolfan brifysgol arbenigol sy'n darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu sydd wedi'u teilwra i fyfyrwyr gradd. Cynigir cyrsiau gradd hefyd ar ein campysau ym Mangor, Dolgellau, Llangefni a'r Rhyl.