Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Erbyn hyn mae mwy o gyfleoedd nag erioed i weithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn chwilio am unigolion sy’n awyddus i helpu pobl eraill.

Os ydych chi'n gydymdeimladol eich natur, a'ch bod yn awyddus i ddarparu cymorth a gofal o ansawdd uchel er mwyn diwallu anghenion pobl eraill, yna gallai cwrs ym maes iechyd a gofal cymdeithasol fod yn ddechrau ar yrfa werth chweil i chi.

Cyflwynir ein holl gyrsiau mewn amgylcheddau dysgu realistig, ac mae gan ein staff arbenigol ystod eang o brofiad yn y diwydiant ar ôl bod yn Weithwyr Cymdeithasol Cofrestredig, Nyrsys Cofrestredig, Therapyddion Galwedigaethol a Rheolwyr Cartrefi Gofal.

Byddwch yn dysgu'r sgiliau a'r wybodaeth sy'n hanfodol i weithio yn y sector. Yn dibynnu ar lefel eich cwrs, byddwch yn mynd ar leoliadau gwaith ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â’r sector, megis gweithio gyda phartneriaid a chyflogwyr yn y sector. Mae gennym gysylltiadau helaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Awdurdodau Lleol, darparwyr Gofal Cartref a sefydliadau Trydydd Sector.

Bob blwyddyn, mae ein myfyrwyr yn symud ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau prifysgol, gan gynnwys Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwaith Cymdeithasol, Iechyd Galwedigaethol, Therapi Galwedigaethol, Troseddeg ac ati. Gall myfyrwyr hefyd symud ymlaen i un o'r cyrsiau gradd a gynigir yma yn y coleg. Yn ogystal, rydym yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i fyd gwaith, naill ai trwy gyflogaeth uniongyrchol neu hyfforddiant pellach ar un o’n llwybrau prentisiaeth.

Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?

Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau Lefel 0 (mynediad) hyd at gyrsiau lefel Gradd. Rydym hefyd yn cynnig Prentisiaethau.

Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.


Lefel 0 (Mynediad)


Cyrsiau y gallwch eu hastudio


Cyrsiau lefel 1

Cyrsiau lefel 2

Cyrsiau lefel 3

Cyrsiau lefelau 4 - 6

Gyrfa mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth