Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Troseddeg Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Diweddarwyd manyleb CBAC yn 2021 ac mae'r cymhwyster, ar ôl ei gwblhau, yn dwyn yr un pwyntiau UCAS â phynciau Safon Uwch. Bellach gellir ei astudio ochr yn ochr â chyrsiau Safon Uwch uwch erall fel rhan o lwybr Lefel 3 / Safon Uwch.

Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dilyniant dysgwyr o unrhyw astudio ar Lefel 2, yn enwedig TGAU mewn Cymdeithaseg, y Gyfraith, Seicoleg a'r Dyniaethau.

Unedau'r flwyddyn gyntaf

- Uned 1: Newid ymwybyddiaeth o drosedd (gwaith cwrs)

- Uned 2: Damcaniaethau troseddeg (arholiad)

Unedau'r ail flwyddyn

- Uned 3: O leoliad y drosedd i'r llys (gwaith cwrs)

- Uned 4: Trosedd a Chosb (arholiad)

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, bydd angen yr isod arnoch:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg neu Rifedd

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i'r ail flwyddyn (Diploma Cymhwysol) yn seiliedig ar eich perfformiad yn y flwyddyn gyntaf (Tystysgrif Gymhwysol).

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp

  • Dysgu yn y dosbarth

  • Cefnogaeth tiwtorial

  • Ymweliadau addysgol

  • Google Classroom (amgylchedd dysgu rhithwir)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Gymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu

  • Ailsefyll TGAU a/neu

  • Bagloriaeth Cymru

Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster gwerthfawr sy'n aml yn cael ei astudio ochr yn ochr â chwrs Lefel 3 llawn amser.

Mae'r cymhwyster wedi'i raddio A*-E, sy'n denu pwyntiau UCAS cyfatebol ar Lefel 3, ac yn rhoi sgiliau personol a busnes trosglwyddadwy i chi. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Menter a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o gymwysterau Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg Iaith /Saesneg Iaith.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.


Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Mae’r cwrs yn cynnwys un arholiad a chynhyrchu gwaith i'w asesu dan amodau wedi'u rheoli ym mlwyddyn 1 a blwyddyn 2.

Dilyniant

Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at fyfyrwyr Safon Uwch sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y sectorau Heddlu / Gorfodi'r Gyfraith / Cyfiawnder Ieuenctid / y Gwasanaeth Prawf / Carchardai / Gofal Cymdeithasol.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni addysg uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Lefel AS/A

Lefel AS/A