Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Y Rhyl, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Bioleg

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Llangefni
Pwllheli
Llandrillo-yn-Rhos

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ddatblygu'ch sgiliau gwyddonol ar lefel uwch? Ar y cwrs hwn, cewch wella'ch dealltwriaeth o fioleg, drwy astudio theori a thrwy wneud gwaith ymarferol. Mae'n baratoad da ar gyfer Addysg Uwch, a gall arwain at yrfa mewn meysydd gwyddonol neu mewn meysydd sy'n ymwneud ag iechyd.

Os ydych yn fyfyriwr ymroddedig, ac os cawsoch raddau da yn eich TGAU Bioleg/Gwyddoniaeth, mae'r cwrs hwn yn addas i chi. Bydd yn meithrin eich diddordeb yn y pwnc a'i gymwysiadau ehangach, gan eich galluogi i ragori.

Gallwch ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau AS eraill, neu o bosibl gymwysterau Lefel 3 eraill.

UNED 1 (AS) BIOCEMEG SYLFAENOL A THREFNIADAETH CELLOEDD (Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud - 20% o'r cymhwyster)

Mae'r uned hon yn cynnwys y pynciau a ganlyn:

  • Mae elfennau cemegol yn cael eu huno i ffurfio cyfansoddion biolegol
  • Adeiledd a threfniadaeth celloedd
  • Cellbilenni a chludiant
  • Mae adweithiau biolegol yn cael eu rheoleiddio gan ensymau
  • Asidau niwclëig a'u swyddogaeth
  • Mae gwybodaeth enetig yn cael ei throsglwyddo i epilgelloedd

UNED 2 (AS) BIOAMRYWIATH A FFISIOLEG SYSTEMAU'R CORFF (Arholiad ysgrifenedig: 1 awr a 30 munud - 20% o'r cymhwyster)

Mae'r uned hon yn cynnwys y pynciau a ganlyn:

  • Mae pob organeb yn perthyn i'w gilydd drwy eu hanes esblygiadol
  • Addasiadau ar gyfer cyfnewid nwyon
  • Addasiadau ar gyfer cludiant
  • Addasiadau ar gyfer maeth

UNED 3 (A2) EGNI, HOMEOSTASIS A'R AMGYLCHEDD (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr - 25% o'r cymhwyster)

Mae'r uned hon yn cynnwys y pynciau a ganlyn:

  • Pwysigrwydd ATP
  • Mae ffotosynthesis yn defnyddio egni golau i syntheseiddio moleciwlau organig
  • Mae resbiradaeth yn rhyddhau egni cemegol mewn prosesau biolegol
  • Microbioleg
  • Maint poblogaethau ac ecosystemau
  • Effaith dyn ar yr amgylchedd
  • Homeostasis a'r aren
  • Y system nerfol

UNED 4/5 (A2) AMRYWIAD, ETIFEDDIAD AC OPSIYNAU (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr - 25% o'r cymhwyster)

Mae'r uned hon yn cynnwys y pynciau a ganlyn:

  • Atgenhedlu rhywiol mewn bodau dynol
  • Atgenhedlu rhywiol mewn planhigion
  • Etifeddiad
  • Amrywiad ac esblygiad
  • Cymwysiadau atgenhedliad a geneteg

Dewis un opsiwn o bedwar:

A. Imiwnoleg a Chlefydau

B. Anatomi Cyhyrysgerbydol Dynol

C. Niwrobioleg ac Ymddygiad

D. Gwyddor Bwyd

UNEDAU DEWISOL - arholir gyda gwaith uned 4. ARHOLIAD YMARFEROL ar lefel A2 yn unig. 10% o'r cymhwyster. LLYFR LABORDY i'w gwblhau drwy gydol y flwyddyn AS a'r flwyddyn A2.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd BB mewn Gwyddoniaeth (Dwyradd) neu TGAU gradd B mewn Bioleg. TGAU gradd C mewn Mathemateg (Haen Uwch) neu TGAU gradd B mewn Rhifedd (Uwch/Canolradd)

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithiol)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar y cwrs hwn, cewch eich asesu drwy gyfrwng arholiadau a llyfr gwaith labordy y byddwch yn ei gwblhau yn ystod dwy flynedd y cwrs.

I gael manylion llawn, gweler yr adran Gwybodaeth ychwanegol yn ôl campws/cwrs.

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster ychwanegol a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn ennill pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am le ar amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn sawl sefydliad, gan gynnwys Grŵp Llandrillo Menai.

Os dewiswch barhau i astudio yn y maes hwn, gallech wneud cais i ddilyn cwrs prifysgol mewn gwyddoniaeth fiolegol, biocemeg, microbioleg, biotechnoleg, ecoleg, meddygaeth, deintyddiaeth, nyrsio neu seicotherapi. Wedyn, gallech gael gyrfa yn y diwydiant perthnasol. Bydd eich astudiaethau ar y cwrs Lefel A yn help i chi ddewis yn ddoeth o'r dewisiadau sydd ar gael.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • International
  • Lefel AS/A

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Pwllheli

Lefel AS/A