Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cymorth Ariannol a Chyllid ar gyfer Graddau

Mae gwahanol fathau o gefnogaeth ariannol a bwrsariaethau ar gael.

Bwrsarïau

Isod mae bwrsarïau Grŵp Llandrillo Menai sydd are gael i fyfyrwyr cymwys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â degrees@gllm.ac.uk.

Bwrsari Dilyniant Uniongyrchol Grŵp Llandrillo Menai - £1000 / 100% ym mis Mai:
Pob myfyriwr sy'n symud ymlaen yn syth o raglen Lefel 3 i gwrs AU llawn amser yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Ond ar gael i Fyfyrwyr ar flwyddyn gyntaf eu hastudiaethau.

Bwrsari Iaith Gymraeg (AU) - £300 / 100% ym mis Mai:
Pob myfyriwr sy'n astudio cyrsiau penodol yr addysgir rhannau sylweddol ohonynt drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bwrsari Ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf neu MALIC - £300 / 100% ym mis Mai:
Pob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs AU llawn amser ac y mae eu cod post mewn ardal Cymunedau'n Gyntaf.

Profiad o fod mewn gofal - £300 / Ar hyd y flwyddyn, yn amodol ar bresenoldeb:
Pob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs AU llawn amser ac sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Bwrsariaeth Dyfodol Myfyrwyr (Cronfa Cyflogadwyedd wedi'i Dargedu CCAUC)

Gall myfyrwyr Addysg Uwch o grwpiau a dangynrychiolir fod yn gymwys i gael bwrsariaeth Dyfodol Myfyrwyr i’w cynorthwyo i fynd ar brofiad gwaith a datblygu sgiliau cyflogadwyedd. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i dyfodolmyfyrwyr@gllm.ac.uk

Cynllun Hepgor Ffioedd i Israddedigion Rhan-Amser

Gall myfyrwyr rhan-amser sy'n astudio rhaglen o fodiwlau sy'n werth llai na 30 credyd fod yn gymwys i wneud cais am grant hepgor ffioedd CCAUC. Uchafswm y ffioedd y gellir eu hepgor ym mhob blwyddyn academaidd yw £875. I gael rhagor o wybodaeth anfonwch neges e-bost i degrees@gllm.ac.uk.

Eithriad a gostyngiad ar Dreth y Cyngor

Ydych chi wedi ystyried a ydych yn gymwys i gael eich eithrio neu gael gostyngiad ar Dreth y Cyngor? Edrychwch ar wefan y Llywodraeth i gael rhagor o wybodaeth.

https://gov.wales/council-tax-discounts-and-reduction/students

Os ydych yn gwneud cais am eithriad neu ostyngiad ar Dreth y Cyngor, gallwch ofyn am ffurflen 'Cadarnhau Statws Myfyriwr' gan y Coleg a fydd yn rhoi cadarnhad o'ch statws fel myfyriwr cofrestredig i'r Awdurdod Lleol. Siaradwch â staff yr adran Gwasanaethau i Ddysgwyr am fwy o wybodaeth.