Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dy Daith i'r Coleg

Mae gadael yr ysgol yn gyfnod cyffrous, ond gyda chynifer o gyrsiau a llwybrau gyrfa i ddewis ohonynt fe all fod yn eithaf brawychus hefyd.

Gyda chynifer o gyrsiau a llwybrau gyrfa i ddewis ohonynt, mae'n syniad da rhoi amser i ymchwilio i'r hyn sydd ar gael i chi.

Cam 1: Opsiynau

Pwysig dechrau meddwl am y cam nesaf yn fuan

  • Mynychu digwyddiadau agored
  • Trafodwch eich dewisiadau â thîm cyfeillgar ein Gwasanaethau i Ddysgwyr.
  • 1:1 gyda Gyrfa Cymru yr ysgol. Gwnewch apwyntiad i weld cynghorydd Gyrfa Cymru eich ysgol.
  • Os yw’r coleg yn mynychu’r ysgol i rhoi cyflwyniad, pwysig gwrando i weld pa opsiynau/cyrsiau sydd ar gael yn y coleg
College Journey - Step 1 Icon

Cam 2: Gwneud Cais

Os ydych yn gwybod pa gwrs llawn amser yr ydych am wneud cais amdano, gallwch wneud cais ar-lein yn uniongyrchol o'r dudalen sy'n rhoi gwybodaeth i chi am y cwrs.

I wneud cais, dewiswch eich campws ac yna cwblhewch y broses gofrestru drwy ddilyn y cyfarwyddiadau sydd ar y sgrin.

Unwaith rydych chi wedi cyflwyno eich cais, efallai y bydd angen i chi drefnu cyfweliad. ⁠Byddwch yn cael rhestr o ddyddiadau ac amseroedd. Yna, byddwch yn cael cynnig lle yn y coleg ar yr amod eich bod yn bodloni'r gofynion mynediad ac yn dod am gyfweliad, os oes angen cyfweliad. Unwaith rydych chi'n gwybod mai dyma'r dewis iawn i chi, mae'n bwysig eich bod yn derbyn y cynnig amodol hwn.

Pwysig sicrhau bod eich graddau disgwyliedig yn cyrraedd gofynion mynediad am y cwrs yr ydych yn cyflwyno cais am.

Posib gwneud cais am fwy na un cwrs, ond gallwch ond derbyn eich lle ar gyfer un cwrs.

College Journey - Step 2 Icon

Cam 3: Cyfweliad

Sgwrs anffurfiol yw'r cyfweliad ynglŷn â’r cwrs.

Fydd y tiwtor yn holi am unrhyw gymwysterau sydd wedi ennill yn barod, beth yw graddau disgwyliedig ac oes unrhyw wybodaeth arall fydd yn ddefnyddiol i’r coleg cael gwybod.

Bydd hwn yn gyfle i’r unigolyn gofyn unrhyw gwestiynau am y cwrs hefyd.

Cyfweliad 1:1 neu mewn grŵp, dibynnol ar y cwrs

Os na allwch chi ddod (i'r coleg) i'r cyfweliad, gallwch newid yr amser/dyddiad drwy anfon neges e-bost i'r coleg: admissions@gllm.ac.uk

College Journey - Step 3 Icon

Cam 4: Croeso i’r Coleg

Yn gynnar yn yr haf, bydd y rhai sydd wedi gwneud cais i'r coleg ac wedi derbyn cynnig amodol yn cael eu gwahodd i dreulio diwrnod yn y coleg fel rhan o'r broses bontio.

Bydd y diwrnod yma yn gyfle i gyfarfod â’r tiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr newydd, crwydro a dod i adnabod y campws a chymryd rhan mewn ambell weithgaredd sy’n berthnasol i’r cwrs.

Bydd hefyd yn gyfle i ofyn cwestiynau am y cwrs neu goleg.

College Journey - Step 4 Icon

Cam 5: Canlyniadau

Mae'r coleg yn cynnal dau ddiwrnod 'sicrhau dy le' ddiwedd Awst, ar ôl i'r canlyniadau TGAU gael eu cyhoeddi.

Unwaith y byddwch chi wedi derbyn canlyniadau eich arholiadau TGAU gan yr ysgol, dewch draw i'r coleg unrhyw bryd rhwng 10.00am a 4.00pm ar y naill ddiwrnod neu'r llall i sicrhau eich lle ar y cwrs. Dylai'r sawl sydd eisoes wedi cyflawni eu cymwysterau mewn blynyddoedd blaenorol ddod i'r coleg ar un o'r dyddiau hyn hefyd.

Os na fyddwch chi wedi cael y canlyniadau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich cwrs a'ch bod am gael cefnogaeth a gwybodaeth bellach, peidiwch â phoeni. ⁠Gallwch siarad â thiwtor neu'r tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr er mwyn dod o hyd i'r cwrs sy'n iawn i chi. Mae'r Gwasanaethau i Ddysgwyr ar gael ar bob safle i'ch helpu i edrych ar eich dewisiadau a'ch cynghori. Ar sail eich canlyniadau, ein bwriad yw gwneud yn siŵr eich bod yn dechrau ym mis Medi ar gwrs sy'n addas i chi.

Mae hi'n bwysig darllen ac ymateb i'r negeseuon e-bost y byddwn yn eu hanfon atoch am eich cais.

College Journey - Step 5 Icon

Cam 6: Cynefino

Mae cwrs cynefino'r coleg yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod:

  • Pawb yn cwrdd â’u tiwtoriaid, cael trosolwg o’r rhaglen dysgu
  • Derbyn amserlen am y flwyddyn
  • Rhennir gwybodaeth ychwanegol am gludiant, lles a chefnogaeth ariannol, gan gynnwys Cronfeydd Cefnogi Dysgwyr y coleg, y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru.

  • Yn ystod y cyfnod cynefino, bydd y tiwtor yn mynd â'r dosbarth i'r adran gofrestru i gofrestru pawb ar y cwrs. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd llun pawb yn cael ei dynnu i'w roi ar laniard a gofynnir i chi dalu ffi o £25 am adnoddau (gellir talu'r ffi ag arian parod, siec, neu gerdyn).

College Journey - Step 6 Icon
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date