Coedwigaeth a Rheoli Cefn Gwlad
Bydd y cyrsiau ymarferol hyn yn eich galluogi i feithrin sgiliau a gwybodaeth mewn amryw o feysydd cysylltiedig fel Cadwraeth, Rheoli Cynefinoedd, Rheoli Plâu a Defnyddio Llif Gadwyn. Cewch gyfle hefyd i ennill tystysgrifau technegol ychwanegol.
Rheolir y goedwig yn unol â Chynllun Rheoli Coetir ‘Glastir’. Yn ogystal, mae rhannau o’r fferm yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Ewropeaidd. Mae’r rhain eto’n cynnig cyfleoedd ychwanegol i ddysgwyr.
Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?
Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau
Lefel 2 hyd at gyrsiau
Lefel 3.
Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.