Busnes a Rheoli

Cynlluniwyd ein cyrsiau busnes i feithrin y wybodaeth, yr hyder, y sgiliau rhyngbersonol a’r sgiliau ymarferol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan baratoi’r myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd ym maes busnes, gwasanaethau ariannol, marchnata, rheoli a’r sector cyhoeddus.

Mae’r sector busnes a rheolaeth yn llwybr gyrfa amrywiol a deinamig i’r rhai sydd â'u bryd ar arwain, arloesi, a chreu llwyddiant i'w sefydliadau. Mae dewis gyrfa ym maes busnes a rheolaeth yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i unigolion lunio strategaethau, meithrin twf, a dylanwadu ar yr economi fyd-eang.

Un o elfennau mwyaf apelgar y sector hwn yw'r dewis helaeth o swyddi y mae'n eu cynnig. O reolwyr marchnata a dadansoddwyr ariannol i arbenigwyr adnoddau dynol a rheolwyr gweithrediadau, gall gweithwyr proffesiynol ym maes busnes a rheolaeth deilwra eu gyrfaoedd i'w diddordebau a'u sgiliau. Bydd yr hyblygrwydd hwn yn sicrhau gyrfa werth chweil sy'n datblygu'n barhaus i chi yn y byd corfforaethol.

Mae busnes a rheolaeth yn faes sydd angen unigolion sy'n gallu arwain a gwneud penderfyniadau. Yn y swyddi hyn mae unigolion yn aml yn arwain timau, adrannau, neu sefydliadau cyfan, gan wneud dewisiadau allweddol sy'n dylanwadu ar broffidioldeb, cynhyrchiant, a chyfeiriad strategol. Mae'n gyfle i droi syniadau arloesol yn ganlyniadau gwirioneddol a gweld effaith eich penderfyniadau.

Yn yr economi fyd-eang a chydgysylltiedig sydd ohoni, mae galw cyson am weithwyr proffesiynol medrus ym maes busnes a rheoli. Mae busnesau'n dibynnu ar weithwyr proffesiynol i ddeall a datrys heriau cymhleth, manteisio ar gyfleoedd a nodi cyfleoedd twf. ⁠Golyga hyn ddewis helaeth o yrfaoedd a marchnad swyddi sefydlog, sy'n sicrhau bod gyrfaoedd ym maes busnes a rheolaeth yn cynnig sicrwydd.

Ar ben hynny, mae gyrfa ym maes busnes a rheolaeth yn meithrin sgiliau hanfodol fel datrys problemau, cyfathrebu ac arweinyddiaeth. Mae'r sgiliau hyn yn drosglwyddadwy ar draws diwydiannau amrywiol, gan ei gwneud hi'n bosibl symud rhwng sectorau a chael cyfleoedd newydd trwy gydol eich gyrfa.

Y sector busnes a rheolaeth yw'r peiriant sy'n gyrru arloesedd a chynnydd, boed mewn corfforaethau sefydledig, busnesau newydd, neu sefydliadau dielw. Mae'n gyfle i fod ar flaen y gad o ran newid, i gyfrannu at benderfyniadau strategol, ac i ffurfio dyfodol byd busnes.

Nid yn unig mae gyrfa ym maes busnes a rheolaeth yn gyfle i lwyddo, ond mae hefyd yn ymwneud ag arwain ac ysgogi eraill i gyrraedd eu llawn botensial. Mae'n llwybr i dwf proffesiynol a boddhad personol, ac yn gyfle i gael effaith barhaol ar sefydliadau, diwydiannau, a'r economi fyd-eang.

Cyfleoedd o ran Gyrfa:

  • Rheolwr Marchnata: Cyflog Cyfartalog - £30,000 i £60,000 y flwyddyn
  • Dadansoddwr Ariannol: Cyflog Cyfartalog - £30,000 i £50,000 y flwyddyn
  • Rheolwr Adnoddau Dynol: Cyflog Cyfartalog - £35,000 i £70,000 y flwyddyn
  • Rheolwr Gweithrediadau Cyflog Cyfartalog - £35,000 i £65,000 y flwyddyn
  • Ymgynghorydd ym maes Rheoli Cyflog Cyfartalog - £30,000 i £60,000 y flwyddyn
  • Rheolwr Prosiectau: Cyflog Cyfartalog - £30,000 i £60,000 y flwyddyn
  • Rheolwr Gwerthiant: Cyflog Cyfartalog - £30,000 i £60,000 y flwyddyn
  • Rheolwr Datblygu Busnes: Cyflog Cyfartalog - £30,000 i £60,000 y flwyddyn
  • Cyfrifydd: Cyflog Cyfartalog - £30,000 i £50,000 y flwyddyn
  • Rheolwr Ariannol: Cyflog Cyfartalog - £35,000 i £70,000 y flwyddyn

Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?

Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau Lefel 2 hyd at gyrsiau lefel Gradd. Rydym hefyd yn cynnig Prentisiaethau.

Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.


Cyrsiau lefel 2

Cyrsiau lefel 3

Cyrsiau lefelau 4 - 6