Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Sut i wneud cais am gwrs rhan-amser

Ffurflen Gofrestru

Gallwch archebu a thalu am nifer o gyrsiau ar-lein.

Cyrsiau sydd ddim angen cyfweliad

Os nad oes angen cyfweliad, cwblhewch y ffurflen gofrestru ar-lein sydd i'w chael ar wefan y cwrs.

Cyrsiau sydd angen cyfweliad

Os bydd angen i chi gael cyfweliad am y cwrs sy'n apelio atoch, pediwch â phoeni! Fel rheol, bydd y cyfweliad yn anffurfiol iawn a, chan amlaf, ni fydd angen mwy na galwad ffôn fer. Pwrpas y cyfweliad yw trafod Gofynion Cyn-mynediad eich cwrs a rhoi rhagor o fanylion I chi.

I drefnu cyfweliad, cysylltwch â'r Coleg priodol. Gallwch ffonio, anfon e-bost at generalenquiries@gllm.ac.uk neu ddefnyddio'r cyfleuster LiveChat.

Ar ôl eich cyfweliad, cwblhewch y ffurflen gofrestru ar-lein sydd i'w chael ar wefan y cwrs.

Cyrsiau gyda chonsesiwn, neu os ydych yn talu mewn rhandaliadau, neu os ydych o dan 19 oed ar 1 Medi

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am gonsesiynau a ffioedd.

Dysgwyr 16-18 oed

Nid oes angen i ddysgwyr rhwng 16 a 18 oed dalu rhan y ffi o ffi'r cwrs dysgu. Dim ond y ffi arholiad fydd yn rhaid iddyn nhw ei thalu.

Dysgwyr o dan 16 oed

Mae cyrsiau rhan-amser yng Ngrŵp Llandrillo Menai yn bennaf ar gyfer dysgwyr ôl-16, gyda rhai rhaglenni wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer y rhai sydd yn +19oed.

Ar gyfer astudio TGAU rhan-amser gyda’r nos, rhaid i ddysgwyr fod yn 15 oed o leiaf ar y 1af o Fedi, cael eu haddysgu gartref, a heb fod wedi cofrestru mewn addysg statudol. Sylwer bod derbyn unrhyw ddysgwr o dan 16 oed yn amodol ar ymgynghoriad ymlaen llaw ag adran addysg yr awdurdod lleol perthnasol, cael eu cymeradwyaeth, ac ar gytuno i brosesau Diogelu Grŵp Llandrillo Menai cyn y gellir cadarnhau lle ar y cwrs.

Os ydych dan 16 oed ac â diddordeb mewn cwrs rhan-amser, rydym yn eich annog i gysylltu â Gwasanaethau i Ddysgwyr i drafod a ydych yn gymwys.

Sylwer os gwelwch yn dda

Ar gyfer cyrsiau gradd/addysg uwch rhan-amser, ewch i'n tudalen 'sut i wneud cais' am gwrs gradd, mae'r Grŵp yn derbyn ceisiadau drwy gydol y flwyddyn.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date