Lefel AS/A Cymdeithaseg
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Y Rhyl, Dolgellau
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1-2 flynedd
Lefel AS/A CymdeithasegDisgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Llawn Amser
Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch?
Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio. Gallwch ddod o hyd i'r grid pynciau Lefel A i wneud eich dewisiadau ar ein prif dudalen Lefel A.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi ddeall rhagor am fethodoleg a safbwyntiau cymdeithasegol?
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer amrediad eang o fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd a grwpiau oedran sydd am astudio'r meysydd hyn. Bydd yn eich paratoi ar gyfer byd gwaith ac ar gyfer Addysg Uwch. Bydd hefyd yn rhoi i chi'r sgiliau sy'n hanfodol i ymchwilio'n feirniadol i hunaniaeth cymdeithasau, sefydliadau ac unigolion.
Gofynion mynediad
Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:
- 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
- TGAU gradd B yn un o'r Dyniaethau neu TGAU gradd B mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf. TGAU gradd C mewn Mathemateg neu Rifedd
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:
- Gwaith grŵp
- Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
- Cefnogaeth Tiwtorial
- Ymweliadau addysgol
- MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Caiff y cwrs ei asesu drwy gyfwng arholiadau allanol fis Ionawr (unedau SY1 ac SY3) a fis Mehefin (unedau SY2 ac SY4).
Dilyniant
Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen.
Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau. Ymhlith y cyrsiau gradd y gallwch wneud cais i'w dilyn mae Cymdeithaseg, Troseddeg, Y Gyfraith, Astudiaethaur Cyfryngau, Gwleidyddiaeth, Athroniaeth, a llawer mwy.
Mae'r cwrs hefyd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd y gallwch eu dilyn ar unwaith neu ar ôl cyfnod mewn Addysg Uwch. Gallech gael gyrfa yn y meysydd canlynol - newyddiaduraeth, y cyfryngau, yr heddlu, y gyfraith, gwleidyddiaeth, nyrsio, iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a llywodraeth leol.
Gwybodaeth am fodiwlau'r cwrs Llangefni
Disgrifiad cwrs
Ar y cwrs hwn, medrwch ddysgu sut mae cymdeithasau wedi eu strwythuro a sut maent yn gweithio, a sut mae unigolion a grwpiau yn rhyngweithio. Mae'n darparu dealltwriaeth lawn o feddwl a dulliau cymdeithasegol a'r cyfle i ddatblygu ystod o sgiliau.
Gwybodaeth uned
Blwyddyn AS
Uned G671: Archwilio Cymdeithasoli, Diwylliant a Hunaniaeth
• Ffurfiad diwylliant, y broses o gymdeithasoli, rôl cymdeithasoli wrth greu hunaniaeth.
• Archwilio'r broses ymchwil, archwilio'r defnydd o ddata meintiol ac ansoddol – dulliau casglu a dadansoddi yng nghyd destun ymchwil, archwilio'r defnydd o ddulliau cymysg yng nghyd-destun ymchwil.
Uned G672: Pynciau mewn Cymdeithasoli, Diwylliant a Hunaniaeth – Un pwnc o blith:
• Cymdeithaseg y teulu – cysyniadau allweddol a thueddiadau allweddol o fewn y teulu, rôl y teulu mewn cymdeithas, amrywiaeth teuluol, rolau, cyfrifoldebau a pherthynas aelodau o'r teulu â'i gilydd.
• Cymdeithaseg iechyd - cysyniadau allweddol ac adeiladwaith cymdeithasol iechyd a salwch, patrymau ac esboniadau am iechyd gwael mewn cymdeithas.
• Cymdeithaseg crefydd – cysyniadau allweddol a natur gyfnewidiol mudiadau crefyddol mewn cymdeithas, crefydd a safle cymdeithasol, cryfder crefydd mewn cymdeithas.
• Cymdeithaseg ieuenctid – cysyniadau allweddol ac adeiladwaith cymdeithasol ieuenctid, rôl diwylliant /isddiwylliant ieuenctid mewn cymdeithas, y berthynas rhwng ieuenctid ac isddiwylliant, profiad pobl ifanc mewn addysg.
Blwyddyn A2
Uned G673: Pŵer a Rheolaeth – Un pwnc o:
• Cymdeithaseg trosedd a gwyriad, diffinio a mesur trosedd a gwyriad, tueddiadau, patrymau ac esboniadau dros drosedd a gwyriad, rôl erledigaeth asiantaethau rheolaeth gymdeithasol wrth greu trosedd a gwyriad , datrysiadau i'r broblem o drosedd.
• Cymdeithaseg addysg, strwythur a threfniadaeth y system addysg, rôl a swyddogaeth addysg mewn cymdeithas,cyflawniad addysgolgwahaniaethol, y berthynas rhwng addysg a'r economi, addysg a pholisi cymdeithasol.
• Cymdeithaseg y cyfryngau torfol – diffinio ac ymchwilio'r cyfryngau torfol, cynllunio'r newyddion, cynrychiolaeth grwpiau cymdeithas, effaith y cyfryngau ar gymdeithas.
• Cymdeithaseg pŵer a gwleidyddiaeth – diffinio ac archwilio gweithredu gwleidyddol mewn cymdeithas, cymryd rhan mewn ac ymddangosiad mudiadau cymdeithasol newydd, patrwm cyfnewidiol gweithredu gwleidyddol, ideolegau gwleidyddol a'u perthynas gyda gweithredu gwleidyddol, natur a dosbarthiad grym gwleidyddol mewn cymdeithas.
Uned G674: Archwilio Anghyfartaledd a Gwahaniaeth Cymdeithasol
• Anghyfartaledd a gwahaniaeth cymdeithasol, wedi ei ddarlunio gan yr astudiaeth o ryw, dosbarth, ethnigrwydd, oedran
• Archwilio ymchwil cymdeithasegol ar anghyfartaledd a gwahaniaeth cymdeithasol – pryderon ymarferol, materion theori.
Gwybodaeth am fodiwlau'r cwrs Dolgellau
Disgrifiad cwrs
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer amrediad eang o fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd a grwpiau oedran sydd am astudio'r meysydd hyn. Bydd yn eich paratoi ar gyfer byd gwaith ac ar gyfer Addysg Uwch. Bydd hefyd yn rhoi ichi 'r sgiliau sy'n hanfodol i ymchwilio'n feirniadol i hunaniaeth cymdeithasau, sefydliadau ac unigolion.
Gallwch ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau Lefel AS/Lefel A eraill, neu o bosibl gyda chyrsiau Lefel 3 eraill. Bydd ein staff yn fwy na pharod i'ch helpu i lunio rhaglen a fydd yn ateb eich gofynion orau. Gall myfyrwyr hŷn hefyd ddilyn y cwrs yn rhan-amser.
Gwybodaeth uned
Astudiaeth o bobl a chymdeithas yw Cymdeithaseg, a bydd cymdeithasegwyr yn ceisio canfod sut a pham bod cymdeithasau wedi'u saernïo mewn ffyrdd penodol. Ar y cwrs hwn, byddwch yn ystyried sut mae cymdeithas yn helpu i'ch ffurfio chi fel unigolyn. Byddwch hefyd yn edrych ar beth sy'n achosi problemau cymdeithasol fel tlodi, troseddu, gwyredd a rhagfarn.
Blwyddyn 1 (AS) SY1: Caffael Diwylliant: Mae'r uned hon yn cynnwys dwy adran. Yn Adran A, canolbwyntir ar ddiffinio beth yw diwylliant, gan edrych ar sut mae diwylliant yn dylanwadu ar eich hunaniaeth (eich ymdeimlad o 'fi'). Yn Adran B, edrychir ar ddiwylliant teuluoedd neu ddiwylliant ieuenctid. Byddwch yn astudio damcaniaethau cymdeithasegol ynghylch sut y mae diwylliannau ieuenctid neu'r teulu'n dylanwadu ar ddiwylliant Prydain heddiw. SY2: Deall Diwylliant: Mae'r uned hon yn cynnwys dwy adran. Yn Adran A, fe'ch cyflwynir i ddulliau ymchwilio cymdeithasegol, a chewch wybod pa gyfarpar a thechnegau sy'n angenrheidiol i gynnal ymchwiliadau. Yn Adran B, byddwch yn edrych ar y cyfryngau torfol. Byddwch yn dysgu sut mae'r sefydliadau cymdeithasol hyn yn effeithio arnom fel unigolion ac ar y gymdeithas yr ydym yn byw ynddi.
Blwyddyn 2 (A2) SY3: Deall Grym a Rheolaeth: Yn yr uned hon, astudir y dylanwad a gaiff grym mewn cymdeithasau. Byddwch hefyd yn astudio damcaniaethau ynghylch 'Troseddau'
SY4: Deall Rhaniadau Cymdeithasol: Mae'r uned hon yn cynnwys dwy adran. Yn Adran A, edrychir ar ddulliau ymchwilio, gan barhau i ddatblygu'ch technegau ymchwilio ymarferol. Yn Adran B, edrychir ar anghydraddoldeb cymdeithasol, gan astudio'r rhesymau cymdeithasegol drosto.
Gwybodaeth am fodiwlau'r cwrs Pwllheli

Gwybodaeth am fodiwlau'r cwrs Y Rhyl

Blwyddyn 1 (AS)
SY1: Caffael Diwylliant: Mae'r uned hon yn cynnwys dwy adran. Yn Adran A, canolbwyntir ar ddiffinio beth yw diwylliant, gan edrych ar sut mae diwylliant yn dylanwadu ar eich hunaniaeth (eich ymdeimlad o 'fi'). Yn Adran B, edrychir ar ddiwylliant teuluoedd neu ddiwylliant ieuenctid. Byddwch yn astudio damcaniaethau cymdeithasegol ynghylch sut y mae diwylliannau ieuenctid neu'r teulu'n dylanwadu ar ddiwylliant Prydain heddiw.
SY2: Deall Diwylliant: Mae'r uned hon yn cynnwys dwy adran. Yn Adran A, fe'ch cyflwynir i ddulliau ymchwilio cymdeithasegol, a chewch wybod pa gyfarpar a thechnegau sy'n angenrheidiol i gynnal ymchwiliadau. Yn Adran B, byddwch yn edrych ar y cyfryngau torfol neu ar addysg. Byddwch yn dysgu sut mae'r sefydliadau cymdeithasol hyn yn effeithio arnom fel unigolion ac ar y gymdeithas yr ydym yn byw ynddi.
Blwyddyn 2 (A2)
SY3: Deall Grym a Rheolaeth: Yn yr uned hon, astudir y dylanwad a gaiff grym mewn cymdeithasau. Byddwch hefyd yn astudio damcaniaethau ynghylch 'Troseddau' neu 'Iechyd ac Anabledd'.
SY4: Deall Rhaniadau Cymdeithasol: Mae'r uned hon yn cynnwys dwy adran. Yn Adran A, edrychir ar ddulliau ymchwilio, gan barhau i ddatblygu'ch technegau ymchwilio ymarferol. Yn Adran B, edrychir ar anghydraddoldeb cymdeithasol, gan astudio'r rhesymau cymdeithasegol drosto.
Gwybodaeth ychwanegol
Rhoddir ystyriaeth i geisiadau gan fyfyrwyr hŷn nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol.
Gwybodaeth am fodiwlau'r cwrs Llandrillo-yn-Rhos

Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- International
- Lefel AS/A
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Dolgellau
- Pwllheli
Lefel AS/A