Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Pam Ein Dewis Ni?

Beth bynnag yw'ch uchelgais ar gyfer y dyfodol, rydym yma i wneud yn siŵr eich bod yn manteisio i'r eithaf ar eich amser yn y coleg a'ch bod chi'n barod i symud ymlaen i addysg uwch, prentisiaeth neu gyflogaeth.

Myfyrwyr Lefel A ar ganlyniadau da

Canlyniadau Rhagorol

Bob blwyddyn, bydd ein myfyrwyr yn cael canlyniadau rhagorol ac yn dewis un ai parhau a'u hastudiaethau mewn prifysgol neu fynd ymlaen i fyd gwaith.

Dewch i wybod mwy...

Cefnogaeth Ragorol i Fyfyrwyr

Dyfarnodd arolygiad diwethaf y llywodraeth bod safon y gofal, y gefnogaeth a'r arweiniad a roddwn i fyfyrwyr yn 'rhagorol' – felly cewch bob gofal yn ystod eich amser yn y coleg.

Dewch i wybod mwy...
Rhieni a phlentyn yn darllen llyfr

Rhieni a gwarcheidwaid

Drwy ddewis dod i’r coleg i astudio caiff eich plentyn fynediad at ystod eang o gyrsiau, offer ac adnoddau arbenigol, a darlithwyr sydd â phrofiad proffesiynol yn eu maes.

Dewch i wybod mwy...
Myfyrwyr yn chwarae rygbi

Cyfleoedd i Gyfoethogi Profiadau Myfyrwyr

Tra byddant yn astudio yn y coleg, gall myfyrwyr fanteisio ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn pob math o weithgareddau allgyrsiol fydd yn eu helpu i feithrin annibyniaeth a hyder ac yn ehangu eu profiadau.

Dewch i wybod mwy...

Amgylchedd Croesawus a Chyfeillgar

Ar yr holl gampysau, ceir amgylchedd croesawgar a hynod gynhwysol lle bydd staff yn eich cefnogi i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gewch yn y coleg.

Dewch i wybod mwy...

Cyfleusterau o'r Radd Flaenaf

Gan mai ni yw'r coleg mwyaf yng Nghymru, yn ddiweddar rydym wedi gallu buddsoddi dros £30 miliwn mewn cyfleusterau sy'n sicrhau eich bod yn cael profiadau dysgu tan gamp.

Dewch i wybod mwy...