Digwyddiadau

Digwyddiadau i Rannu Gwybodaeth a Gwneud Cais
Os nad wyt ti wedi gwneud cais i astudio gyda ni eto, byddwn yn cynnal digwyddiadau galw heibio i rannu gwybodaeth a gwneud cais, lle cei ddysgu rhagor am sut i astudio efo ni ym mis Medi.
P'un ai wyt ti'n dod yn syth o'r ysgol, neu'n ddysgwr sy'n oedolyn sy'n awyddus i ddychwelyd i fyd addysg, bydd ein timau cyfeillgar ar gael i dy gefnogi i ddod o hyd i'r cwrs cywir a gwneud cais.
Bydd ein tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr wrth law i ateb unrhyw gwestiynau am gyllid myfyrwyr, cludiant neu lesiant.
Llandrillo-yn-Rhos: Dydd Llun 23 Mehefin, 9am-3pm
Y Rhyl: Dydd Mawrth 24 Mehefin, 9am-3pm
Dolgellau: Dydd Mawrth 24 Mehefin, 9am-3pm
Glynllifon: Dydd Mawrth 24 Mehefin, 9am-3pm
Pwllheli: Dydd Mercher 25 Mehefin, 9am-3pm
Llangefni: Dydd Iau 26 Mehefin, 9am-3pm
Bangor: Dydd Gwener 27 Mehefin, 9am-3pm
Dyddiau i Groesawu Ymgeiswyr Newydd
Os ydych chi wedi gwneud cais i astudio gyda ni ym mis Medi, byddwch yn derbyn gwahoddiad i ddiwrnod 'Croeso i'r Coleg' ym mis Mehefin.
Ewch i'n tudalen digwyddiad Croeso i'r Coleg am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich lle.