Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Pwllheli
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Cerddoriaeth

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Pwllheli

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi wedi gwirioni ar gerddoriaeth? Hoffech ddysgu rhagor a meithrin eich gallu i berfformio a chyfansoddi? Ar y cwrs hwn, cewch ddysgu am y gwahanol fathau o gerddoriaeth glasurol, jazz, roc a phop, ac wrth wneud gwaith ymarferol a gwaith theori, cewch eich annog i ddatblygu'ch sgiliau perfformio a chyfansoddi. Bydd datblygu'ch sgiliau gwrando a dadansoddi hefyd yn eich helpu i fynd i'r afael â cherddoriaeth ysgrifenedig, cerddoriaeth a berfformir a cherddoriaeth a recordiwyd.

I ddilyn y cwrs, mae gofyn i chi gael sgiliau perfformio lleisiol neu offerynnol o safon gradd 3 neu uwch. Rhaid i chi hefyd allu darllen cerddoriaeth yn dda.

Gallech ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser ar y cyd â phynciau AS eraill neu gyda Diploma Lefel 3. Gall myfyrwyr hŷn hefyd ddilyn y cwrs yn rhan amser. Mae cwrs Lefel AS a chwrs Lefel A lawn ar gael, felly ar ôl y flwyddyn gyntaf, gallwch ddewis parhau i astudio'r pwnc neu beidio.

Ar y cwrs hwn, byddi'n adeiladu ar y sgiliau a ddysgais ar gyfer TGAU ac mae'r unedau'n dilyn yr un patrwm.

Uned 1: Perfformio Gyda chymorth dy athro canu/offerynnol byddi'n paratoi datganiad ar gyfer arholiad perfformio. Cei berfformio fel unawdydd/rhan o ensemble neu gyfuniad o'r ddau a bydd angen i'r perfformiad bara tua 6-8 munud a bod o safon gradd 5 neu uwch. Bydd arholwr allanol yn dod i'r coleg i wrando ar y perfformiadau.

Uned 2: Cyfansoddi Ar gyfer dy bortffolio cyfansoddi bydd angen i ti gyfansoddi dau ddarn. Byddwch yn cyfansoddi ar gyfrifiaduron gan ddefnyddio rhaglenni Sibelius ac Apple Logic. Darn 1 - darn clasurol sy'n ymateb i friff a osodwyd gan CBAC. Darn 2 - darn rhydd mewn arddull o'th ddewis di. Bydd y gwaith yn cael ei farcio'n allanol.

Uned 3: Arfarnu Gwrando ar gerddoriaeth fyddi di yn yr uned hon a bydd y darnau gosod yn ddatblygiad o'r rhai a astudiaist ar gyfer TGAU. Bydd y modiwl hwn yn cryfhau ac yn gwella'ch dealltwriaeth o gerddoriaeth. Byddwch yn astudio nifer o ddarnau, gan gynnwys cerddoriaeth 'glasurol' a 'phoblogaidd', yn fanwl. Caiff eich gwybodaeth o'r darnau hyn, a'ch sgiliau gwrando ehangach, eu hasesu mewn prawf gwrando terfynol.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU mewn Cerddoriaeth neu Theori gradd 5 ynghyd â phrofiad o berfformio a chyfansoddi os na astudiwyd Cerddoriaeth ar lefel 5

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Cyflwyniadau
  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • Amgylchedd dysgu rhithiol (MOODLE)
  • Hyfforddiant offerynnol/lleisiol

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol ar ddiwedd y flwyddyn
  • Portffolio o'ch gwaith cwrs cyfansoddi.

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau.

Os byddwch am barhau i astudio cerddoriaeth, gallwch fynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd. O ran gyrfa, gallwch anelu at weithio'n broffesiynol fel cerddor neu ganwr, gweithio yn y diwydiant cerdd neu yn y cyfryngau, yn y sector addysg, yn y maes cyhoeddi neu ym myd y theatr.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Lefel AS/A
  • Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Pwllheli

Lefel AS/A

Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth

Person sy'n defnyddio offer cerdd