Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Sara Mai ac Antur y Fferm ar ymweliad â fferm Glynllifon

Daeth Casia Wiliam, cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor, i fferm Glynllifon i ddarllen ei llyfr diweddaraf i blant ysgolion lleol

Daeth Casia Wiliam, awdur llyfrau i blant, ar ymweliad i fferm Glynllifon i ddarllen ei llyfr diweddaraf 'Sara Mai ac Antur y Fferm' i blant ysgol.

Fel rhan o'r digwyddiad a drefnwyd gan Palas Print, Caernarfon, mwynhaodd y plant o ysgolion cynradd Llanllyfni, Nebo, Bro Llifon a Baladeulyn daith o amgylch y ffêr. ⁠

Casia, cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor, ydy awdur y gyfres Sara Mai, ac mae wedi ennill nifer o wobrau amdani.

Yn y stori ddiweddaraf, mae Sara Mai yn treulio noson oddi cartref am y tro cyntaf ac yn mynd ar daith diwedd tymor gyda'i ffrindiau i Fferm Tyddyn Gwyn. Ar y fferm maen nhw'n cwrdd â'r anifeiliaid direidus, gafr o'r enw Gomer a Tomi'r tarw.

Roedd Glynllifon felly yn lleoliad perffaith i gyflwyno anturiaethau diweddaraf Sara Mai i blant.

⁠Yn dilyn y darlleniad, llofnododd Casia gopïau o'r llyfr ‘Sara Mai ac Antur y Fferm’ gan ddweud mai awgrymiadau gan blant ysgol oedd wedi'i hysbrydoli i'w ysgrifennu.

Meddai: "Mi ysgrifennais i'r hanes ar ôl ymweld â nifer o ysgolion Gwynedd a chael amser braf iawn gyda'r plant yno, nifer ohonynt yn blant fferm.

Dw i wedi benthyg ambell un o'u syniadau (gyda'u caniatâd wrth gwrs) ac yn gobeithio y bydd y stori yn eu plesio.

Hoffwn ddiolch i Palas Print am drefnu'r digwyddiad ac i Glynllifon am y croeso cynnes. Allwn i ddim bod wedi gofyn am well lleoliad i rannu'r stori hon gyda darllenwyr ifanc."

Yn ogystal â chwrdd â Casia a thrafod y llyfr, cafodd y plant ysgol gyfle i weld y fuches odro ProCROSS, y cyfleusterau godro a llaeth, yr uned foch a'r ŵyn llywaeth.

Roedd pwyslais yr ymweliad ar y cysylltiad rhwng ffermio a chynhyrchu bwyd, ac yn canolbwyntio ar natur wyddonol cynhyrchu bwyd.

Meddai Martin Jardine, Cyfarwyddwr Bwyd-Amaeth Grŵp Llandrillo Menai: "Mae canran uchel o fyfyrwyr Coleg Glynllifon yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf o bob cwr o'r ardal. Mae llawer iawn o'r ddarpariaeth yn digwydd drwy'r Gymraeg neu'n ddwyieithog. Oherwydd hynny rydym wrth ein boddau bod Sara wedi dewis ymweld â Choleg Glynllifon gyda'i llyfr newydd.

Roedd yn bleser gennym groesawu plant o ysgolion lleol a rhoi cyfle iddynt weld fferm weithredol ar waith. Roedd yn ddiwrnod arbennig ac mi wnaeth y plant fwynhau'r straeon a chyfle i ddysgu rhagor am daith bwyd o'r fforch i'r fforc.

⁠Daw ‘Sara Mai ac Antur y Fferm’ fel dilyniant i ddwy nofel gyntaf y gyfres, ‘Sw Sara Mai’ a ‘Sara Mai a Lleidr y Neidr’.

⁠Enillodd ‘Sw Sara Mai’ wobr Tir Na n'Og yn 2021 ac mi gyrhaeddodd ‘Sara Mai a Lleidr y Neidr’ rhestr fer y gystadleuaeth y flwyddyn wedyn.

Mae'r llyfrau'n addas i blant rhwng saith ac un ar ddeg oed ac maen nhw wedi derbyn canmoliaeth gan awduron a beirniaid llenyddol.

Dywedodd Beth Gwanas: "Mae llawer o hiwmor yn y llyfr hwn, a digon yn digwydd... Gwych!

Ysgrifennodd Morgan Dafydd yn ei flog Sôn am Lyfrau: Mae’r iaith naturiol, hawdd i’w darllen yn golygu bod llyfrau Sara Mai yn berffaith ar gyfer plant 7–11 oed, a byddwn yn argymell y rhain fel nofelau y dylai athrawon ystyried buddsoddi ynddynt.

  • Mae Sara Mai ac Antur y Fferm gan Casia Wiliam ar gael rŵan. ⁠ ⁠I ddarllen rhagor am Casia neu i brynu ei llyfrau ewch i'w thudalen ar wefan Y Lolfa.

Campws diwydiannau'r tir, sy'n cynnwys cyfleusterau preswyl, yw Glynllifon. Saif ar Ystâd Glynllifon ger Caernarfon. Mae fferm Glynllifon, gan gynnwys y coetir, yn 300 hectar, ac yn amgylchedd gwych ar gyfer astudio rheolaeth cefn gwlad ac astudiaethau amaethyddol. I gael gwybod rhagor am astudio ar gampws Glynllifon, cliciwch yma.