Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Bydd ein cymwysterau’n rhoi sylfaen gadarn i chi mewn meysydd fel amlgyfryngau, rhwydweithio, rhaglennu a datblygu gemau cyfrifiadurol.

Fel myfyriwr, cewch ddefnyddio consolau, VR/ AR (Hololens, Oculus Rift), argraffwyr 3D, llechi graffeg Wacom, labordai caledwedd a meddalwedd a chyfrifiaduron sy’n gallu rhedeg meddalwedd technegol a ddefnyddir yn y diwydiant, e.e. Maya, Unreal, Unity, Game Maker, Animate, Microsoft Visual Studio, Python, App Inventor, Lego Mindstorms a’r Adobe Master Suite.

Caiff myfyrwyr gyfle i fynd ar leoliadau gwaith gan weithio ar amrywiaeth o brosiectau mawr gyda chyflogwyr adnabyddus, e.e. Go North Wales, TT Games a Pixel Knights.

Mae gan ein myfyrwyr rhwydwaith fynediad at amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar-lein ynghyd ag efelychwr rhwydwaith gan Cisco. Drwy raglen Imagine, mae gan ein myfyrwyr rhaglennu a rhwydweithio hefyd hawl i gael mynediad am ddim at gopïau o feddalwedd allweddol gan Microsoft.

Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser yn y meysydd a ganlyn:

  • Technoleg Ddigidol
  • Datblygu Gemau
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Datblygu Meddalwedd

Gyrfa mewn Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.