Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Sut i wneud cais am gwrs gradd

Derbyniadau Cyd-destunol

Rydym ni'n cydnabod potensial myfyrwyr dawnus o bob cefndir. Rydym ni'n deall y gall y cyd-destun astudio gael effaith ar eich graddau a'ch cyfleoedd i fanteisio ar weithgareddau allgyrsiol neu brofiad gwaith.

Mae derbyniadau cyd-destunol yn golygu ein bod ni'n ystyried eich cais yng nghyd-destun eich amgylchiadau personol chi, ac yn addasu'r cynnig i sicrhau bod gan bawb siawns teg i gyflawni eu potensial wrth astudio yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Yn nodweddiadol mae'r cynigion hyn 10% yn is na'r gofynion academaidd a restrir dan y meini prawf mynediad ar daflen wybodaeth y cwrs.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cynnig derbyn cyd-destunol rydym ni'n chwilio am yr isod:

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau. Os nad ydych chi'n siŵr eich bod yn barod am gwrs gradd (Addysg Uwch) gyda ni ar hyn o bryd, rydym ni'n cynnig amrywiaeth o raglenni Mynediad i Addysg Uwch hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n Swyddog Derbyniadau Addysg Uwch trwy: degrees@gllm.ac.uk

Dylech gyflwyno cais trwy UCAS ar gyfer astudio'n llawn amser neu drwy gyfrwng y wefan i astudio ar gwrs rhan amser.


Gwirio eich cod post


Rhowch eich cod post isod, yn cynnwys bwlch, i wirio ei fod yn gymwys ar gyfer derbyn cyd-destunol e.e. LL57 2TP.

Ymgeiswyr â phrofiad o fod mewn gofal

Defnyddiwn y term 'profiad o fod mewn gofal' i gwmpasu amrediad o wahanol amgylchiadau. Efallai y byddwch chi wedi clywed y termau Plentyn sy'n Derbyn Gofal / Person sy'n Gadael Gofal. Efallai bod gennych chi, neu y bu gennych chi, weithiwr cymdeithasol, cynghorydd personol neu efallai eich bod chi'n cofio mynd i gyfarfodydd o'r enw adolygiadau Plentyn sy'n Derbyn Gofal neu gyfarfodydd Cynllun Addysg Personol.

Lle bo ymgeisydd neu fyfyriwr wedi'i adnabod fel unigolyn â phrofiad o fod mewn gofal byddwn yn darparu'r cymorth canlynol:

  • Unigolyn cyswllt dynodedig a fydd yn cefnogi'r pontio ac yn gweithredu fel cyswllt rhwng yr ymgeisydd/myfyriwr a'r tîm addysg ac unrhyw asiantaethau cymorth, fel bo'n briodol, a chyfrannu at unrhyw adolygiadau Cynllun Addysg Personol
  • Cymorth ariannol ar ffurf bwrsariaethau a chymorth â chostau offer hanfodol. Rhoir bwrsari ychwanegol i ddysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal sy'n graddio tuag at gostau graddio.

Gall ymgeiswyr nodi eu profiad o fod mewn gofal ar y ffurflen gais neu drwy gysylltu â ni trwy: staysafe@gllm.ac.uk

Cyrsiau Llawn-Amser:

Os ystyrir bod eich cwrs yn gwrs llawn amser i bwrpas ffioedd, bydd gofyn i chi wneud cais drwy, system ar-lein Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau (UCAS): www.ucas.com.

Y codau ar gyfer pob coleg yw:

  • Coleg Llandrillo: L53
  • Coleg Meirion-Dwyfor: L53
    • Cod campws Dolgellau - D
  • Coleg Menai: L53
    • Cod campws Bangor - B
    • Cod campws Parc Menai - M
    • Cod campws Llangefni - L

Wedi methu dyddiad cau UCAS?

Bydd y colegau'n parhau i dderbyn ceisiadau llawn amser drwy UCAS wedi i'r dyddiad cau fynd heibio.

Cyrsiau Rhan-amser:

Os ystyrir bod eich cwrs yn gwrs rhan-amser i ddibenion ffioedd, gallwch wneud cais ar-lein yn uniongyrchol o'r dudalen gwybodaeth cwrs.

Noder:

Os nad oes dolen i wneud cais ar-lein, mae'n system ymgeisio am y flwyddyn nesaf wedi cau. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r coleg.

BSc (Anrh) Plismona Proffesiynol, Cwnsela (MSc) a Phrentisiaeth Gradd - Dylid gwneud ceisiadau am ddilyn y cyrsiau hyn drwy Brifysgol Bangor.